Prisiau tai: 'Arwyddion calonogol'

  • Cyhoeddwyd
Asiantaeth gwerthu taiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd prynwyr tro cynta' yn gorfod talu treth stamp ar eiddo gwerth llai na £250,000 unwaith eto o Fawrth 24

Mae'r disgwyliadau ar gyfer prisiau tai yn fwy cadarnhaol wedi i lefel y gweithgaredd o fewn y farchnad aros yn sefydlog yn ystod mis Chwefror, yn ôl arolwg diweddara' Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS).

Dywed arbenigwyr fod 'na fwy o bobl yn dangos diddordeb mewn prynu eu tŷ cynta' cyn i'r amodau talu treth stamp newid ar Fawrth 24.

O ddiwedd y mis, bydd prynwyr o'r fath yn gorfod talu treth stamp ar eiddo gwerth llai na £250,000 unwaith eto.

Mae hyn wedi arwain syrfewyr at fod yn fwy cadarnhaol ynglŷn â phrisiau tai.

Yn ogystal, mae'n debyg fod nifer y tai sydd wedi'u gwerthu wedi aros yn gyson, gydag 13 o dai wedi'u gwerthu fesul syrfëwr.

Er bod y lefel yma yn hanesyddol o isel, does dim gostyngiad wedi bod yn nifer y tai a werthwyd ers peth amser.

Roedd prisiau wedi parhau i ostwng rhywfaint yn ystod mis Chwefror, ond ar y raddfa isa' ers mis Gorffennaf diwetha'.

Yn ôl yr arolwg, roedd 24% yn fwy o syrfewyr Cymru wedi dweud bod prisiau wedi gostwng yn hytrach na chodi.

Roedd 'na arwyddion cadarnhaol o ran prynwyr posib yng Nghymru yn ystod mis Chwefror, gyda 21% o syrfewyr wedi cofnodi cynnydd mewn galw.

Optimistiaeth

Yn y cyfamser, roedd 'na lai o dai wedi cael eu rhoi ar y farchnad fis diwetha', gyda 7% yn fwy o syrfewyr yn dweud bod y nifer wedi gostwng.

Wrth edrych ymlaen, mae arbenigwyr yn rhagweld darlun mwy positif o ran prisiau eiddo ac yn disgwyl i nifer y tai sy'n cael eu gwerthu i godi dros y tri mis nesa'.

"Gyda'r cynnydd diweddar mewn gweithgaredd yn sgil diwedd y 'gwyliau treth stamp', mae'n ymddangos bod 'na fwy o optimistiaeth o fewn y farchnad," meddai cyfarwyddwr syrfewyr siartredig Kelvin Francis, Caerdydd, a llefarydd RICS yng Nghymru, Tony Filice.

"Roedd rhagolygon syrfewyr ar gyfer prisiau yn fwy cadarnhaol yng Nghymru yn ystod mis Chwefror.

"Ond gyda morgeisi fforddiadwy yn dal i fod allan o afael nifer o bobl sy'n prynu am y tro cynta', amser a ddengys a fydd modd cynnal y rhagolygon gobeithiol y tu hwnt i ddiwedd y 'gwyliau treth stamp."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol