Cyfle o bosib i dimau Cymru chwarae yn Ewrop

  • Cyhoeddwyd
Joe Allen o Abertawe yn brwydro gyda Darcy Blake o GaerdyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Dau o chwaraewyr a allai gael y cyfle i gystadlu yn Ewrop yw Joe Allen a Darcy Blake

Fe allai clybiau pêl-droed Abertawe a Chaerdydd gael y cyfle i chwarae yn Ewrop y tymor nesaf, trwy gystadlu yng Nghwpan Cymru.

Fe wnaeth Wrecsam, Casnewydd a Merthyr gystadlu yn y gystadleuaeth y tymor yma.

Ond gobaith Cymdeithas Bêl-Droed Cymru yw y bydd Abertawe a Chaerdydd yn ymuno â'r gystadleuaeth hefyd.

Fe fydd UEFA, y corff sy'n rheoli pêl-droed Ewrop, yn ystyried y cais gan Gymdeithas Bêl-Droed Cymru yn ddiweddarach yn y mis.

Ond fe allai hynny olygu bo hi'n bosib y byddan nhw'n gorfod ildio'u lle yng Nghwpan FA Lloegr neu Gwpan y Gynghrair.

Daw hyn wythnosau yn unig ar ôl i Gaerdydd chwarae yn rownd derfynol Cwpan y Gynghrair (Cwpan Carling) yn erbyn Lerpwl yn Wembley.

Mae Jonathan Ford, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-Droed Cymru, yn cyfadde' na fydd hyn yn benderfyniad hawdd.

"Fe fydd yn rhaid cyfaddawdu," meddai.

Gwaharddiad

Disgrifiad,

Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Cymdeithas Bêl-Droed Cymru Ian Gwyn Hughes sy'n ymateb i gais y Gymdeithas

Ychwanegodd y byddai disgwyl, petai UEFA yn caniatáu hyn, i'r clybiau wneud penderfyniad pa lwybr i'w gymryd ar ddechrau'r tymor nesaf.

Ers 1995, dim ond clybiau o system Cynghrair Cymru sydd wedi bod yn gymwys i gynrychioli Cymru yn Ewrop.

Cafodd clybiau Cymru oedd yn chwarae yng nghynghrair Lloegr - Abertawe, Caerdydd, Wrecsam, Casnewydd, Bae Colwyn a Merthyr - eu gwahardd gan Gymdeithas Bêl-Droed Cymru i fod yn rhan o Gwpan Cymru 17 mlynedd yn ôl wedi pwysau gan UEFA.

Ond fe wnaeth y gymdeithas wahodd y clybiau i gymryd rhan yn y gystadleuaeth y tymor yma.

Penderfynodd Abertawe, Caerdydd a Bae Colwyn i beidio cymryd rhan.

Mae Mr Ford yn awyddus i weld yr holl glybiau yn cymryd rhan ond mae angen eglurhad ar gymhwyster Ewrop.

Mae ceisiadau tebyg yn y gorffennol wedi methu.

Cyn y gwaharddiad roedd Caerdydd, Abertawe, Wrecsam, Casnewydd a Merthyr wedi cynrychioli Cymru yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop drwy ennill Cwpan Cymru.

"Dwi wedi cael sawl cyfarfod gyda UEFA ar hyn ac yn gweithio'n galed iawn gyda nhw i ganfod ateb," meddai Mr Ford.

"Fe fydd y mater yn cael ei drafod gan eu pwyllgor gweithredol yn yr wythnosau nesaf.

"Yn ôl rheolau Ewrop, does dim hawl gan dîm i gymryd rhan mewn dwy gystadleuaeth mewn dwy wlad wahanol ac mai drwy un llwybr yn unig y mae modd cyrraedd Ewrop."

Dywedodd y byddai hyn yn gyfle gwych i'r timau ac i bêl-droed yng Nghymru.

"Ond o gymryd rhan yn y gystadleuaeth ac ennill, mae ganddyn nhw le yn Ewrop," ychwanegodd.

Ac fe wnaeth ddatgelu, petai Caerdydd wedi ennill Cwpan Carling fe fyddai hawl ganddyn nhw i gystadlu yng Nghwpan Europa y tymor nesaf fel cynrychiolwyr cynghrair Lloegr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol