Niwl yn achosi trafferthion ym maes awyr Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae niwl trwchus yn achosi trafferthion i awyrennau sy'n cyrraedd a gadael Caerdydd, er bod y maes awyr yn parhau yn agored.
Bu'n rhaid i awyren o Newcastle gael ei dargyfeirio i Birmingham, tra bod rhai hediadau wedi eu gohirio ac awyrennau i Aberdeen ac Amsterdam wedi eu canslo.
Yn ogystal, mae gwylwyr y glannau yn Aberdaugleddau ac Abertawe yn dweud ei bod hi'n anodd gweld ar hyd arfordir de Cymru.
Yn y cyfamser, mae 'na rybuddion am amodau gyrru anodd ar hyd traffordd yr M4, gan gynnwys ar Ail Bont Hafren.
Roedd teithwyr ar awyren Manx2, sy'n hedfan rhwng Caerdydd a'r Fali, hefyd yn wynebu oedi.
Roedd awyren Flybe o Glasgow, a oedd i fod i gyrraedd Caerdydd am 8:20am, yn gorfod disgwyl i lanio.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol