Perfformiad economaidd 'yn waeth'
- Cyhoeddwyd
Mae ystadegau Eurostat yn awgrymu bod perfformiad economaidd Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn llawer is na'r cyfartaledd yn Ewrop.
Yn 2009 roedd y lefel cyfoeth neu GDP y pen yn cyfateb i 68.4% cyfartaledd yr Undeb Ewropeaidd, y lefel isaf yn unrhyw ran o Brydain.
Yn 2005 y lefel oedd 79%.
Ers i gymorth Ewropeaidd ddechrau yn 1999 mae Gorllewin Cymru a'r Cymoedd wedi derbyn biliynau o bunnoedd o arian adfywio economaidd.
'Ysgytwol'
Dywedodd Nick Ramsay AC, Gweinidog yr Wrthblaid ar yr economi: "Mae'r ystadegau'n ysgytwol ac yn dangos pa mor wan yw economi Cymru.
"Wedi 10 mlynedd o lywodraethau Llafur yn y Cynulliad, Cymru yw rhan dlota'r Deyrnas Gyfunol ...
"Mae angen i weinidogion gydweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth San Steffan a busnesau er mwyn creu'r amgylchiadau ar gyfer twf economaidd, mwy o fuddsoddi o dramor a sicrhau bod Cymru'n genedl fwy ffyniannus."
Ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod ystadegau Eurostat yn "arbennig o gamarweiniol".
Dywedodd llefarydd y byddai cymharu lefelau diweithdra ac incwm yn rhoi darlun cliriach o gynnydd yr ardal.
Yn ôl Gohebydd Gwleidyddol BBc Cymru, Toby Mason: "Mae'r ystadegau diweddara yn ergyd fawr i strategaeth adfywio economaidd Llywodraeth Cymru ers 10 mlynedd.
"Yn sicr, effeithiodd y dirwasgiad ar y rhannau hyn o Gymru'n fawr iawn.
"Ond rhaid cofio bod y dirwasgiad yn fydeang tra bod ystadegau Eurostat yn cyfeirio ar berfformiad rhanbarthau Ewrop o flwyddyn i flwyddyn.
'Esgeuluso'
"Prin bod modd i'r llywodraeth esbonio cwymp yn y ganran yn nhermau dirwasgiad economaidd."
Dywedodd llefarydd busnes y Democratiaid Rhyddfrydol, Eluned Parrott: "Mae hon yn dystiolaeth fod Llafur wedi esgeuluso pobl Cymru.
"Yn wyneb problemau Groeg a gwledydd eraill fe ddylen ni fod wedi ennill tir ond, yn anffodus, rydym ar waelod y tabl."
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Alun Ffred Jones AC: "Er bod y ffigyrau hyn yn siomedig, nid ydyn nhw'n syndod yng ngoleuni'r dirwasgiad a darodd Cymru bryd hynny.
"Yr hyn mae'r ffigyrau hyn yn ei ddangos yn glir iawn yw mor fregus yw economi Cymru mewn adeg o ansefydlogrwydd economaidd, yn enwedig y gorllewin a'r Cymoedd.
"Mae ffigyrau heddiw'n dangos pa mor bwysig yw i'r llywodraeth weithredu er mwyn ymdrin â'r gwendidau systemaidd yn ein strwythurau economaidd."