£350,000 ar gyfer canolfan yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
PlentynFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Plant a phobl ifanc yn ei chael hi'n anodd cyrraedd y gwasanaethau priodol, medd mudiad.

Bydd rhai wedi eu cam-drin yn rhywiol a'u treisio yn cael help arbenigol am fod Y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dyfarnu £350,000 i sefydlu canolfan yn Aberystwyth.

Bydd yr arian yn golygu bod elusen Survivor's Trust Wales yn hybu cydweithio rhwng darparwyr gwasanaethau arbenigol yn y sector gwirfoddol.

Y nod yw cefnogi dioddefwyr yn y canolbarth sydd wedi dweud bod gwasanaethau'n brin.

Bydd y drefn newydd yn cynnwys llinell gymorth, gwasanaeth annibynol sy'n cynnig cyngor am faterion rhywiol a gwasanaeth allgymorth.

'Cydweithio'

Dywedodd Fay Maxted, prif weithredwr yr elusen: "Mae ein rheolwr datblygu ar gyfer Cymru, Phil Walker, wedi bod yn cydweithio ag asiantaethau fel Llwybrau Newydd, RASA Gogledd Cymru a SEREN yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i ddatblygu cynlluniau.

"Yn sicr, mae gan yr asiantaethau hyn wybodaeth eang a dealltwriaeth ynglŷn ag effaith trais a cham-drin rhywiol ar ddioddefwyr ac maen nhw'n gallu darparu gwasanaethau allgymorth arbenigol ar gyfer cymunedau gwledig."

Roedd dioddefwyr, meddai, yn aml yn teimlo'n ynysig ac yn wynebu rhwystrau mawr wrth ofyn am help.

'Yn anodd'

"Mae teithio yng Nghanolbarth Cymru'n anodd ac mae gwasanaethau y tu allan i'r ardal yn anodd eu cyrraedd.

"Yn ogystal mae plant a phobl ifanc hefyd yn wynebu problemau wrth geisio cyrraedd y gwasanaethau priodol."

Mae aelodau'r elusen yn Aberystwyth ddydd Mercher yn trafod cynlluniau'r ganolfan newydd ac ymweld ag adeilad allai gael ei droi'n ganolfan.

Dywedodd Mr Walker taw'r gobaith oedd agor y ganolfan erbyn diwedd yr haf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol