'Aberystwyth Ceredigion' yn ennill statws Dinas Llên UNESCO

Aberystwyth yw'r man cyntaf yng Nghymru i ennill statws o'r fath
- Cyhoeddwyd
Mae 'Aberystwyth Ceredigion' wedi cael ei dynodi yn Ddinas Llên UNESCO - y man cyntaf yng Nghymru i dderbyn statws o'r fath.
Mae statws Dinas Llên yn wobr sy'n cael ei roi gan UNESCO i ddathlu cyfraniad ardal i lenyddiaeth – heddiw, ddoe ac yfory.
Mae dros 50 o Ddinasoedd Llên ledled y byd gan gynnwys Barcelona, Dulyn, Baghdad a Melbourne.
Er nad yw Aberystwyth yn ddinas, mae ei statws fel tref prifysgol a chartref i sefydliadau cenedlaethol yn ei gwneud hi'n gymwys ar gyfer y wobr.

Dywed yr Athro Mererid Hopwood fod y cyhoeddiad yn "gyfle i atgyfnerthu'r diwylliant llenyddol cyfoethog ry'n ni'n ei fwynhau yma a'i rannu â'r byd"
Un fu'n rhan o'r bartneriaeth, ac sy'n gweithio yn y dref yw'r Athro Mererid Hopwodd.
"Fel y fro gyntaf yng Nghymru i gael ei chydnabod gan rwydwaith Dinasoedd Creadigol UNESCO, mae arwyddocâd y dynodiad a gyhoeddwyd heddiw yn mynd y tu hwnt i Aberystwyth a sir Ceredigion ac i'r llwyfan cenedlaethol a rhyngwladol," meddai.
"Mae'n gyfle i atgyfnerthu'r diwylliant llenyddol cyfoethog ry'n ni'n ei fwynhau yma a'i rannu â'r byd.
"'Mynd o'ch gwobr at eich gwaith' yw'r dywediad Cymraeg, ac yn sicr rydym ni'n edrych ymlaen yn awr at wynebu'r cyfrifoldeb sy'n dod gyda'r fraint sylweddol hon."

Roedd nifer o sefydliadau lleol, gan gynnwys Prifysgol Aberystwyth, wedi chwarae rhan yn yr ymgyrch
Cafodd partneriaeth Dinas Llên ei ffurfio yn 2021 i fwrw ymlaen â rhaglen ymchwil ac ymgynghori yn lleol a pharatoi'r cais cyn ei gyflwyno ym mis Mawrth 2025.
Mae'r bartneriaeth yn cynnwys Cyngor Tref Aberystwyth, Prifysgol Aberystwyth, Cyngor Llyfrau Cymru, Cyngor Sir Ceredigion, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Mae gan Aberystwyth nifer o gysylltiadau â'r byd llenyddol, gyda'r dref yn hawlio cysylltiad â mwy na 300 o feirdd, a hon yw'r dref gyntaf yng Nghymru i gyflogi Bardd Tref.
Mae hefyd yn gartref i gasgliad sylweddol o gyhoeddwyr, yn ogystal â sefydliadau llenyddol Cymreig o bwys cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru.

"Rwy'n hyderus y bydd yn help i'n diwydiannau creadigol, i weisg, awduron a beirdd y sir ac yn hybu sgwennu, darllen a thrafod," meddai Catrin M S Davies
Dywedodd Eurig Salisbury, sydd wedi bod yn fardd y dref yn Aberystwyth ac yn ddarlithydd yn adran y Gymraeg yn y brifysgol, fod y newyddion yn "llenwi rhywun efo balchder a sut mae tref mor fach yn gallu cyflawni gymaint.
"Mae'n adlewyrchu'r gwaith arbennig sydd wedi bod yn digwydd yn Aber ers blynydde maith ac yn dangos faint o waith caled sydd wedi mynd o wneud y cais - dwi wir yn edmygu y rhai buodd tu ôl i hyn i gyd."
Disgrifiodd Catrin M S Davies, yr Aelod Cabinet ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid ar Gyngor Sir Ceredigion, ei boddhad o glywed y newyddion.
"Ma'n newyddion gwych i Aberystwyth ac i sir Ceredigion. Bydd hwn yn fudd mawr i'n dyfodol, o fudd ariannol ond hefyd o ran llesiant ac yn hwb i'n llyfrgelloedd, ein byd addysg, i fusnesau lleol ac yn helpu pobl i'n darganfod ni a'n straeon niferus.
"Rwy'n hyderus y bydd yn help i'n diwydiannau creadigol, i weisg, awduron a beirdd y sir ac yn hybu sgwennu, darllen a thrafod ar lawr gwlad yn y Gymraeg a'r Saesneg.
"Nawr mae'r gwaith caled yn dechrau er mwyn i ni gael y budd gorau posib i bawb yng Ngheredigion."

"Mae llenyddiaeth i bawb," meddai Maer Aberystwyth Emlyn Jones
Wrth ymateb dywedodd y Cynghorydd Emlyn Jones, Maer Aberystwyth: "Mae'n wych o beth fod 'Aberystwyth Ceredigion' wedi derbyn y statws hwn gan roi ein sir ar lwyfan byd-eang a dathlu ein treftadaeth ddiwylliannol a llenyddol unigryw.
"Mae llenyddiaeth i bawb ac rydym bellach wedi ymuno â rhwydwaith byd-eang o ddinasoedd sydd â chreadigrwydd wrth wraidd eu cymunedau lleol, gan greu dyfodol mwy cynhwysol, gwydn a chynaliadwy."
Fe wnaeth y Prif Weinidog, Eluned Morgan hefyd longyfarch y dref am y statws hwn.
"Mae Cymru yn wlad llawn creadigrwydd, gydag awduron, beirdd, cantorion ac actorion gwych. Wrth gwrs, mae llawer ohonynt yn dod o ardal Aberystwyth ac wedi mynychu'r Brifysgol yno, ac mae'r cyhoeddiad hwn yn gydnabyddiaeth o'r sîn lenyddol ddisglair, yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar draws y sir.
"Mae statws Dinas Llên UNESCO yn gyrhaeddiad haeddiannol iawn, ac rwy'n edrych ymlaen at weld cyfleoedd yn datblygu a gweld Dinas Llên newydd Cymru'n ffynnu."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2024
  
- Cyhoeddwyd9 Mai 2024
 