Angen mwy na £3m i Gadair Geltaidd Prifysgol Rhydychen
- Cyhoeddwyd

Mae cenedlaethau o Gymry wedi astudio yn Rhydychen
Mae angen mwy na £3 miliwn i sicrhau parhad Cadair Geltaidd, meddai Prifysgol Rhydychen wrth BBC Cymru.
Ers canrif a hanner mae Cymry wedi gwneud gwaith ymchwil ôl-raddedig ar y Gymraeg a'i llenyddiaeth yn Rhydychen o dan gyfarwyddyd yr Athro Celteg.
Ond pan ymddeolodd yr Athro Thomas Charles-Edwards ym mis Medi daeth yr ariannu oddi wrth y brifysgol i ben.
Mae £376,000 yng nghronfa'r gadair, sy'n cynnwys arian wedi i dir gael ei werthu yn Nantgarw i ddatblygwyr.
'Briwsion'
Yn y cyfamser, mae ymddiriedolwyr y gronfa wedi penderfynu y dylid defnyddio arian o'r gronfa i greu swydd darlithydd Astudiaethau Celtaidd am gyfnod o bedair blynedd tra eu bod yn chwilio am ffynonellau arian er mwyn ail benodi i'r Gadair.

John Rhŷs oedd Athro Celteg cyntaf Prifysgol Rhydychen
Dywedodd un o'r cyn fyfyrwyr, Yr Athro John Rowlands astudiodd yno dan gyfarwyddyd yr Athro Idris Foster: "Dwi'n meddwl ei fod yn bwysig fod y Gadair yn parhau.
"Er fy mod i'n croesawu'r swydd darlithydd dros dro, briwsion yw hynny mewn gwirionedd.
"Mae 'na berygl i Astudiaethau Celtaidd gael eu gweld yn fwyfwy ymylol yno".
Ond dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol wrth gyfeirio at swydd darlithydd: "Rydym wedi ystyried y sefyllfa yn fanwl a chyda chyflwr ariannol Adran y Dyniaethau ar hyn o bryd, dyma'r ateb mwyaf ymarferol".
Yng Ngholeg Iesu yr oedd y Gadair ac yno hefyd y bydd y darlithydd yn gweithio o Hydref 2012 ymlaen. Mae'r broses o apwyntio ar y gweill.
'Rhyngwladol'
Yn ôl Prifathro Coleg Iesu. yr Arglwydd Krebs: "Mae gan Goleg Iesu ymrwymiad cryf i'r Gadair Geltaidd ac mae gennym lyfrgell Geltaidd bwysig.
"Felly fe fyddwn yn gwneud popeth posib i annog a helpu'r brifysgol i godi'r arian i sicrhau dyfodol y Gadair.
"Mae'n Gadair bwysig, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol."
Yn 1877 y daeth John Rhŷs yn Athro Celteg cyntaf Prifysgol Rhydychen, un a gyflawnodd waith arloesol ar y Gymraeg a'r Fanaweg ac arysgrifau Celtaidd o gyfandir Ewrop.
Bu yn y swydd tan 1915 a'r Albanwr John Fraser oedd yn y Gadair rhwng 1921 ac 1945.
Penodwyd brodor o Fethesda, Idris Foster, i'r Gadair yn 1947 a daliodd y Gadair hyd ei ymddeoliad yn 1978. Ei brif faes ymchwil oedd chwedl Culhwch ac Olwen.
'Y Dafydd'
Symudodd D Ellis Evans, brodor o Lanfynydd, Sir Gaerfyrddin, o fod yn Athro'r Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol Abertawe i'r Gadair Geltaidd yng Ngholeg Iesu yn 1978 ac roedd yno nes iddo ymddeol yn 1996.
Yr Athro Thomas Charles-Edwards oedd yno ers hynny, awdur y gyfrol 'Early Irish and Welsh Kinship', tan ei ymddeoliad ym mis Medi.
Mae rhai o'r athrawon hyn hefyd wedi gweithredu fel Llywydd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, cymdeithas y Cymry ym Mhrifysgol Rhydychen a sefydlwyd yn 1886.
Ymhlith y Cymry Cymraeg sydd wedi astudio yn Rhydychen o dan gyfarwyddyd yr Athro Celteg y mae T H Parry Williams, Bedwyr Lewis Jones, R Geraint Gruffydd, Derec Llwyd Morgan, Medwin Hughes, Kathryn Jenkins, Huw Meirion Edwards ac Angharad Price.