Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2025 i Don Leisure

Don Leisure
Disgrifiad o’r llun,

Don Leisure

  • Cyhoeddwyd

Don Leisure sydd wedi cipio'r Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2025.

Mewn seremoni yng Nghanolfan y Mileniwm, fe gyhoeddwyd mai Don Leisure yw enillydd y brif wobr eleni am ei albwm, Tyrchu Sain.

Roedd Don Leisure yn fuddugol o blith 15 o artistiaid oedd wedi cyrraedd y rhestr fer.

Wrth siarad o'r llwyfan ar ôl derbyn y bymthegfed wobr flynyddol gan y cyflwynydd Sian Eleri, meddai Don Leisure: "Mae'n syfrdanol i ennill. Mae fy merch yn barod wedi dweud ei bod am fynd â'r wobr i ddangos yn yr ysgol.

"Wnes i ddim tyfu lan gyda recordiau Sain felly nid oedd gennyf unrhyw wybodaeth flaenorol am y bandiau.

"Mi oedd gwneud yr albwm yn daith o ddarganfod. Yr ethos oedd, 'a fyddai'r gân yma yn swnio'n dda fel sampl hip hop' ac mi wnaeth gymaint ohonynt.

"Mae yna gymaint o gerddoriaeth Gymreig wych o bob genre dwi'n dal i ddarganfod."

Rhestr Fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2025Ffynhonnell y llun, Gwobr Gerddoriaeth Gymreig

Y rhestr fer yn llawn

  • Adwaith – Solas

  • Buddug – Rhwng Gwyll a Gwawr

  • Breichiau Hir - Y Dwylo Uwchben

  • Cerys Hafana - Difrisg

  • Don Leisure - Tyrchu Sain

  • Gwenno - Utopia

  • Kelly Lee Owens- Dreamstate

  • KEYS – Acid Communism

  • Melin Melyn – Mill On The Hill

  • Panic Shack – Panic Shack

  • Sage Todz – Stopia Cwyno

  • Siula – Night Falls on the World

  • Tai Haf Heb Drigolyn – Ein Albwm Cyntaf Ni

  • The Gentle Good – Elan

  • The Tubs – Cotton Crown

Mae'r wobr - sy'n cynnwys tlws a gwobr ariannol o £10,000 - yn agored i albymau o bob math ac mae enillwyr y gorffennol yn cynnwys LEMFRECK, Kelly Rogue Jones, Boy Azooga, Deyah, Gruff Rhys, a Gwenno.

Cyflwynydd BBC Radio 1, Sian Eleri, oedd yn arwain y seremoni a gafodd ei chynnal yng Nghanolfan y Mileniwm.

Cafodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ei sefydlu yn 2011 gan y cyflwynydd Huw Stephens a'r ymgynghorwr cerddoriaeth John Rostron - ac roedd panel o feirniaid arbenigol o'r diwydiant yn dewis yr enillydd.

Dywedodd Huw Stephens wrth gyfeirio at yr enillydd: "Dyw albwm fel un Don Leisure heb ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig o'r blaen, mae hynny oherwydd nad oes albwm tebyg wedi'i wneud o'r blaen.

"Mae'n hollol unigryw, yn fewnwelediad newydd ar sîn a sain, catalog label Sain sy'n swnio mor ffres a chyffrous. Llongyfarchiadau enfawr i Don Leisure, cerddor sy'n cael ei barchu a'i edmygu gymaint ar sîn Cymru."

Cyflwynwyd y Wobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig i'r cerddor o Gaerdydd Pino Palladino, sydd wedi chwarae'r gitâr fas gyda'r rocwyr byd-enwog The Who i eiconau pop fel Adele, Elton John, Harry Styles a Miley Cyrus.

Y beirniaid oedd; Sofia Ilyas, Roisin O'Connor, Molly Palmer, Zakia Sewell, Natalia Quiros Edmunds, Jude Rogers, Davie Morgan a Tim Jonze.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.