Gemwaith o'r Oes Efydd wedi'i ddwyn o amgueddfa Sain Ffagan

Sain Ffagan
  • Cyhoeddwyd

Mae gemwaith aur o'r Oes Efydd wedi'i ddwyn o Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan yn gynnar fore Llun.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn ymchwilio ar ôl i ddau berson dorri i mewn i brif adeilad yr amgueddfa, sydd ar gyrion Caerdydd.

Y gred yw bod nifer o eitemau wedi eu cymryd o arddangosfa yn yr hyn mae Amgueddfa Cymru wedi ei alw'n "ymosodiad wedi'i dargedu".

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cael gwybod am y digwyddiad am 00:30 fore Llun, 6 Hydref.

"Rydyn ni'n credu bod dau berson wedi torri i mewn i'r prif adeilad, ble mae nifer o eitemau, gan gynnwys gemwaith o'r Oes Efydd, wedi eu dwyn o gas arddangos", meddai'r Ditectif Arolygydd Bob Chambers.

"Mae ymchwiliad yn parhau, ac rydyn ni'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda ni cyn gynted ag sy'n bosib."

Disgrifiad,

Awgrymodd Jane Richardson fod y lladrad yn teimlo fel ymosodiad personol ar "deulu Cymru"

Amgueddfa Cymru sy'n gyfrifol am y safle, ac wrth siarad gyda BBC Cymru, dywedodd prif weithredwr y sefydliad, Jane Richardson, fod y lladrad "mor siomedig" gan fod yr eitemau'n eiddo i "bobl Cymru".

"Dydyn nhw ddim just i'r bobl sy'n gweithio yn yr amgueddfa, maen nhw'n rhan o straeon Cymru... mae'n teimlo reit bersonol achos mae Amgueddfa Cymru yn teimlo fel teulu.

"Felly mae pawb mor drist heddiw achos mae'n teimlo fel attack ar deulu Cymru."

Diolchodd y sefydliad i'r heddlu ac i staff am eu hymateb i'r digwyddiad.

'Eitemau penodol, arbennig iawn'

"Rydym yn credu eu bod yn gwybod yn union am beth yr oedden nhw'n chwilio," meddai Ms Richardson.

Dywedodd fod gwylio deunydd fideo o'r lladrad yn "emosiynol".

Yn ôl Heddlu'r De, roedd un o'u hofrenyddion wedi cyrraedd y safle bum munud ar ôl iddyn nhw gael eu galw yno gan staff diogelwch.

"Roedden nhw'n gwybod yn union i le yr oedden nhw'n mynd," ychwanegodd Ms Richardson, "ni wnaethon nhw edrych i'r chwith na'r dde."

Awgrymodd Ms Richardson fod y sefyllfa yn edrych fel bod y lladron wedi bod yn archwilio'r safle ymlaen llaw a'u bod nhw wedi dod yno am "eitemau penodol".

"Mae'r eitemau y cymeron nhw yn arbennig iawn ac ni wnaethon nhw drafferthu ceisio cymryd unrhyw beth arall.

"Yn anffodus, roedden nhw mor drefnus eu bod wedi llwyddo i ddianc cyn i'r heddlu allu eu dal."

Yn ôl yr archeolegydd a chyn-guradur Amgueddfa'r Fenni, Frank Olding, mae'r digwyddiad yn "sioc, ac yn benbleth yr un pryd".

"Yn amlwg mae wastad yn sioc enfawr pan fo rhywbeth fel hyn yn digwydd - pobl yn dwyn trysorau ein cenedl," meddai.

"Ond hefyd mae'n anodd deall i ba bwrpas mae'r fath beth yn digwydd - mae'n rhyfedd iawn.

"Mae gwrthrychau o'r fath mor anodd eu pasio 'mlaen i rywun arall, a mor anodd gwerthu.

"Gan fod cyn lleied o ddeunydd gyda ni o'r Oes Efydd, yn enwedig gwrthrychau aur, byddai unrhyw un sy'n dod ar eu traws nhw mae'n debyg yn eu 'nabod nhw yn syth.

"Felly mae'n anodd gwybod sut yn union mae unrhyw un yn gallu elwa o ladrad o'r fath.

"Y peth gwaetha' allai ddigwydd ydy eu toddi nhw, a gwerthu nhw o ran gwerth yr aur yn unig - dyna wedyn eu colli nhw am byth."

'Digwyddiad anarferol iawn'

Wrth ymateb i'r digwyddiad ar Dros Frecwast fore Mawrth dywedodd cyn-weinidog diwylliant yn Senedd Cymru, Alun Ffred Jones, fod yn rhaid gofyn a yw toriadau llym yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi arwain at lai o ddiogelwch ar y safle.

"Mae o'n ddigwyddiad anarferol iawn. Dwi ddim yn cofio achos tebyg yng Nghymru," meddai.

"Mae'n sefyllfa ddyrys achos ma' diogelwch yn gallu bod yn ddrud iawn ac ma' 'na doriadau llym wedi bod yn yr 14 mlynedd ddiwetha'.

"Felly mae'n rhaid fod o'n fater i bwyllgor y Senedd i chwilio i'r cefndir yna i gael gwybod yn union beth sydd wedi digwydd a, maes o law, mi ddylai fod 'na ddatganiad gan yr Amgueddfa am y sefyllfa ynglŷn â diogelwch yn gyffredinol."

Yn ymateb i'r sylwadau hynny, dywedodd Llywodraeth Cymru fod y sector celfyddydau a diwylliant wedi gweld cynnydd o 8.5% mewn refeniw eleni, yn ogystal â £18.4m o gynnydd mewn buddsoddiad er mwyn sicrhau hirhoedledd eitemau diwylliannol Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru eu bod yn cymryd diogelwch wirioneddol o ddifrif, ac nad ydyn nhw wedi gwneud unrhyw doriadau i ddiogelwch oherwydd nawdd.