Darganfod olion traed hynafol ar draeth yn Y Borth
- Cyhoeddwyd
Mae olion traed ffosiledig pobl ac anifeiliaid allai ddyddio'n ôl i'r Oes Efydd wedi'u darganfod ar draeth yng Ngheredigion.
Dywedodd yr archeolegwyr eu bod yn gweithio ar frys wrth gloddio'r olion mewn mawn yn y Borth cyn i'r llanw orchuddio'r olion â thywod.
Mae tîm Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn credu y gallai'r olion ddyddio'n ôl hyd at 4,000 o flynyddoedd.
Hefyd daethpwyd o hyd i olion allai fod yn rhan o sarn a thwmpath llosg, nodweddion yr oes dan sylw.
Fforestydd soddedig
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn helpu'r tîm drwy fapio maint y fawnog.
O'r blaen ar ran arall y traeth cafodd fforestydd soddedig eu darganfod, rhai sy'n dyddio'n ôl i hyd at 3,000 CC.
Dywedodd Dr Martin Bates, un o'r archaeolegwyr, mai ei dad, Denis Bates, daearegwr wedi ymddeol, ddaeth o hyd i'r olion traed ym mis Chwefror.
"Am amryw resymau mae patrwm symudiadau'r tywod wedi'i newid dros dro sy'n golygu nad oes tywod yn yr ardal hon o'r traeth," meddai.
Ychwanegodd Dr Bates fod gan y tîm fis neu ddau i gofnodi'r darganfyddiadau ac archwilio'r olion cyn i'r tywod orchuddio'r olion.
"Hwn yw'r tro cynta i dystiolaeth o'r fath gael ei darganfod yng Ngheredigion neu Orllewin Cymru," meddai.
'Arwyddocaol'
"Mae'r fforestydd soddedig gerllaw ymysg y mwyaf arwyddocaol o'u bath yn y Deyrnas Gyfunol.
"Ond dydyn ni ddim wedi darganfod tystiolaeth o bobl yn byw yn y fan hon o'r blaen."
Roedd yr olion traed, meddai, yn cynnwys rhai gwartheg, defaid, geifr ac o bosib eirth.
"Rydyn ni wedi darganfod ôl troed plentyn pedair oed," meddai.
"Rwy'n gallu sefyll lle oedd y plentyn yn sefyll 4,000 o flynyddoedd yn ôl ac mae hynny'n arbennig iawn."