Arweinydd Newydd Plaid Cymru: Leanne Wood

  • Cyhoeddwyd
Leanne WoodFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Yn enedigol o'r Rhondda Leanne Wood yw arweinydd newydd Plaid Cymru

Yn ddysgwraig o'r Rhondda, roedd rhai sylwebyddion yn meddwl y byddai Leanne Wood yn annhebygol o arwain Plaid Cymru.

Mae cadarnleoedd traddodiadol y blaid yn y gorllewin a'r gogledd ond mae hi wedi ceisio elwa ar ei chefndir.

Os yw Plaid Cymru am lwyddo i ddisodli Llafur fel y blaid fwyaf yn y Cynulliad, dywedodd fod rhaid i'r blaid wneud hynny yng nghadarnleoedd Llafur fel y Cymoedd.

"Rwy'n credu fy mod i'n gallu siarad â phobl er mwyn gwneud hynny," meddai.

Y ddau arall yn y ras oedd Elin Jones a'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.

Yn weriniaethwraig o Ben-y-graig, cafodd orchymyn yn 2004 i adael Siambr y Cynulliad wedi iddi alw'r Frenhines yn Mrs Windsor a gwrthododd dynnu'r sylw yn ôl.

Cyfarfod

Ond yn ystod yr ymgyrch am yr arweinyddiaeth dywedodd y byddai'n cyfarfod â'r Frenhines os oedd yn rhan o'i dyletswyddau swyddogol fel arweinydd.

Fel AC mae hi wedi datgelu methiannau y corff gwarchod gwariant cyhoeddus, Swyddfa Archwilio Cymru, o dan y Cyn-Archwilydd Cyffredinol Jeremy Colman.

Hi oedd yr olaf o'r tri ymgeisydd i daflu ei henw i mewn i'r het.

Ond magodd ei hymgyrch fomentwm yn fuan, gan gynnwys cefnogaeth yr ifanc oedd yn hyrwyddo'r ymgyrch ar y we.

Dywedodd un o aelodau amlyca'r blaid, y cyn-AS Adam Price, ei fod yn ei chefnogi.

"Mae ei llais hi'n un y gall pobl Cymru uniaethu ag e," meddai.

Dadleuol efallai oedd ei phenderfyniad i alw ar aelodau Plaid Cymru i bleidleisio yn dactegol i atal Elin Jones rhag cael y swydd.

Ail bleidlais

Dywedodd ei hun y byddai'n rhoi ei hail bleidlais i Ms Jones.

Y cwestiwn pwysig yw beth fydd yn digwydd nesaf i Blaid Cymru o dan ei harweinyddiaeth.

Gall y blaid ddathlu am ei bod yn rhan o lywodraeth am y tro cyntaf yn 2007.

Roedd y glymblaid yn gyfle i ddiwygio'r ffordd yr oedd y Cynulliad yn cael ei ariannu, sicrhau pwerau deddfu a phasio deddfwriaeth i warchod yr iaith Gymraeg ac roedd y rhain i gyd yn flaenoriaethau Plaid Cymru.

Ond roedd etholiad 2011 yn siomedig.

Adnewyddu

Wrth ddadansoddi pam y collodd Plaid Cymru sedd, dywedodd Ms Wood eu bod wedi methu "cynnig rhywbeth unigryw" i etholwyr ar ôl llwyddo gydag amcanion tymor byr pan oedden nhw yn y llywodraeth.

Y llynedd rhoddodd awgrym am ddyfodol y blaid ar ôl cyhoeddi cynigion i adfywio'r hen feysydd glo.

Mae'n weledigaeth sy'n rhoi blaenoriaeth i adnewyddu economaidd a chreu swyddi fel sail ar gyfer Cymru annibynnol - "annibyniaeth go iawn ar gyfer Cymru er mwyn i ni o'r diwedd chwalu'r system sy'n ein gormesu".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol