Diwrnod mawr i Blaid Cymru wrth gyhoeddi'r arweinydd nesa'
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru yn cyhoeddi enw arweinydd newydd ddydd Iau.
Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Elin Jones a Leanne Wood sydd yn y ras i olynu Ieuan Wyn Jones.
Cyhoeddodd Mr Jones ei fwriad i ildio'r awenau wedi etholiad cynulliad siomedig y llynedd.
Roedd yn y swydd am dros ddegawd, gan arwain ei blaid i lywodraeth am y tro cyntaf erioed yn 2007.
Ers wythnosau mae'r tri ymgeisydd wedi mynychu wyth o gyfarfodydd er mwyn amlinellu eu gweledigaeth i'r aelodau.
Mae gan bob aelod un bleidlais yn y system bleidlais amgen.
Yn ôl prif weithredwr Plaid Cymru, Rhuanedd Richards, mae'r etholiad wedi bywiogi ac uno'r blaid.
"Mae heddiw yn ddiwrnod tyngedfennol i'r Blaid ac i Gymru wrth i ni ethol ein harweinydd newydd.
"Dros y misoedd diwethaf mae ein haelodau, cefnogwyr ac etholwyr ehangach wedi cymryd rhan mewn dadl fywiog ac agored am drywydd Plaid Cymru yn y dyfodol.
'Diogelu'
"Mae gennym frwdfrydedd newydd i frwydro dros ddyfodol gwell i Gymru.
"Ac mae'n destun balchder mawr i ni i gyd bod hyn wedi arwain at gynnydd o 23% yn ein haelodaeth, ac mae mwy o bobl yn ymuno â ni bob dydd.
"Mae diogelu buddiannau Cymru a brwydro am ddyfodol gwell i'n cenedl yn un o'r prif bethau sydd ar feddyliau pobl."
P'un ai oedden nhw'n pleidleisio i'r Blaid neu beidio, meddai, roedd pobl yn disgwyl i'r Blaid roi Cymru'n gyntaf a hyrwyddo blaenoriaethau'r genedl.
"Nid oes gennyf amheuaeth y bydd pwy bynnag sy'n cael ei ethol yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw gyda'r balchder a brwdfrydedd i lwyddo," ychwanegodd.
'Cryf iawn'
"Mae Dafydd Elis-Thomas, Elin Jones a Leanne Wood i gyd yn ymgeiswyr cryf iawn sydd fydd yn parhau i wasanaethau Cymru'n dda."
Wrth baratoi i drosglwyddo'r awenau dywedodd Mr Jones na fyddai'n ymyrryd yng ngwaith ei olynydd ond y byddai'n barod i gynnig cyngor.
Mae'r papurau pleidleisio yn cael eu cyfri ar ôl cinio ac mae disgwyl cyhoeddiad ddiwedd prynhawn Iau.
Fe fydd araith fawr gyntaf yr arweinydd newydd yng nghynhadledd wanwyn y Blaid ar Fawrth 23 a 24.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2011