Llys: Manylion y briodas
- Cyhoeddwyd
Yn Llys y Goron Abertawe mae rheithgor wedi clywed manylion y briodas oedd yn cael ei chynllunio gan y dyn a gyhuddir o lofruddio menyw 66 oed o Arberth, Sir Benfro.
Mae John William Mason, 55 oed, o bentref Llandysilio, wedi gwadu llofruddio Angelika Dries-Jenkins yn ei chartref ym mis Mehefin y llynedd.
Clywodd y llys fod y diffynnydd i fod i briodi Denise Evans ar Fehefin 10, ychydig ar ôl y llofruddiaeth.
Ar Fai 25, mynychodd y ddau apwyntiad yn Swyddfa Gofrestru Hwlffordd gan dalu £110.50 mewn arian parod ar gyfer y briodas, gan fwcio'r dyddiad cynharaf posib.
Ar ôl dweud yn wreiddiol y byddai 11 o westeion, newidiwyd hynny i 30 maes o law.
Cofrestrydd
Ond mewn datganiad, dywedodd y Cofrestrydd Barbara Eynon na wnaeth y ddau ymddangos ar ddiwrnod eu priodas, ac nid oedd modd iddi gysylltu â nhw.
Yn ddiweddarach, cafodd wybod bod John Mason wedi ei gyhuddo'r diwrnod hwnnw, diwrnod ei briodas, o lofruddio.
Eisoes, mae'r llys wedi clywed gan yr erlynydd, Patrick Harrington QC, a ddywedodd fod Ms Dries-Jenkins wedi ei llofruddio ar Fehefin 1, ychydig o ddyddiau cyn ei phen-blwydd yn 67 oed.
Ei merch, Eleanor, ddaeth o hyd i'r corff ar Fehefin 3.
Yn ôl yr erlyniad, roedd sefyllfa ariannol John Mason yn wan iawn gan ei fod yn dibynnu ar daliadau budd-dal o £100 bob pythefnos.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2012