Galw am weithredu cynllun difa moch daear
- Cyhoeddwyd
Mae undebau a'r gwrthbleidiau wedi annog gweinidogion i fwrw 'mlaen gyda chynllun i ddifa moch daear yng ngorllewin Cymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r Gweinidog Amgylchedd, John Griffiths, yn gwneud datganiad ynglŷn â'r mater ym Mae Caerdydd brynhawn dydd Mawrth.
Y llynedd cafodd y cynllun ei atal dros dro wrth i adolygiad gwyddonol gael ei gynnal.
Bwriad y weinyddiaeth flaenorol, clymblaid Llafur-Plaid, oedd trefnu cynllun peilot fel rhan o ymdrech i waredu TB, neu'r diciâu, mewn gwartheg.
Eisoes mae gwrthwynebwyr wedi cyhuddo gweinidogion o oedi gan fod casgliadau'r adolygiad wedi eu derbyn ym mis Rhagfyr.
Roedd cyhoeddiad i fod yn yr hydref ond wedyn dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones na fyddai 'na gyhoeddiad tan y Flwyddyn Newydd.
Llythyr
Mae'r llywodraeth wedi dweud eu bod yn ystyried goblygiadau'r adolygiad a'u bod wedi ymrwymo i geisio cael gwared ar y clefyd.
Dywedodd undebau amaethyddol fod angen taclo'r clefyd mewn bywyd gwyllt a bod profion difa mewn rhannau eraill o'r DU ac yn Iwerddon wedi gweithio.
Mewn llythyr ar y cyd at weinidogion, honnodd NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru a Chymdeithas y Wlad, Tir a Busnes na fydd mesurau a gyflwynwyd mewn un ardal yng ngogledd sir Benfro - ble roedd y cynllun difa i fod i gael ei weithredu - ddim yn ddigon ar eu pennau eu hunain.
"Mae'n rhaid cymryd camau pendant i daclo'r gronfa o fywyd gwyllt sydd wedi dod i'r amlwg yn yr ardal," meddai'r llythyr.
Mae cadwriaethwyr wedi dweud eu bod yn erbyn difa.
Dywedodd y Gymdeithas er Atal Creulondeb i Anifeiliaid: "Yr ateb cynaliadwy wrth daclo'r clefyd yw brechu, profi gwartheg yn fwy aml a rheoli symud gwartheg."
'Tanseilio'
Yn ôl llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr, Antoinette Sandbach: "Mae oedi hir ynghylch y mater wedi bod ers yr haf tra bod bywoliaeth ffermwyr yn y fantol.
"Mae undebau a'r gwrthbleidiau wedi annog gweinidogion i fwrw 'mlaen â difa moch daear yn y gorllewin.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar faterion gwledig, Llyr Huws Gruffydd: "Mae'r gweinidog wedi awgrymu ei fod eisiau perthynas agored a thryloyw gyda ffermwyr llunwyr polisi, ond mae'r berthynas honno wedi'i thanseilio'n arw gan fod ffermwyr wedi gorfod disgwyl."
Mae disgwyl i Weinidog Amgylchedd Cymru, John Griffiths, wneud datganiad i Aelodau Cynulliad yn siambr y Senedd brynhawn dydd Mawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2011