Pryderon am newidiadau i gymorth cyfreithiol

  • Cyhoeddwyd
Olivia CollisFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Achoswyd anafiadau i ymennydd Olivia Collis, 8 oed, cyn iddi gael ei geni

Mae teulu merch a ddioddefodd anafiadau i'w hymennydd a chymhlethdodau cyn ei geni yn ofni y bydd newidiadau i'r system cymorth cyfreithiol yn atal eraill rhag cael cyfiawnder.

Cafodd rhieni Olivia Collis o Gaerdydd gymorth y wladwriaeth i ddwyn achos o esgeulustod meddygol.

Mae Llywodraeth y DU eisiau arbed £350m y flwyddyn ar gymorth cyfreithiol erbyn 2015 ac maen nhw wedi dweud y gallan nhw gyfyngu ar y cymorth sydd ar gael i ddwyn achosion esgeulustod meddygol.

Ond maent yn dweud na fydd unrhyw effaith ar achos Olivia, sy'n wyth oed.

Mae'r Mesur Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr yn dychwelyd i Dŷ'r Arglwyddi ddydd Mawrth, wedi iddo gael ei drechu sawl tro.

Mae mam Olivia, Leanne, yn teimlo y dylai teuluoedd eraill sy'n wynebu blynyddoedd yn y llys yn dwyn achosion o esgeulustod meddygol gael cymorth gan y wladwriaeth.

'Trafferth ymdopi'

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cyfadde' cyfrifoldeb yn rhannol yn achos Olivia.

"Heb gymorth cyfreithiol fe fydd teuluoedd yn cael eu gadael ar eu pennau eu hunain," meddai Mrs Collis.

"Pan fo gennych chi blentyn sydd ag anaf i'r ymennydd - mae'n rhaid i'r tad neu'r fam gymryd amser bant o'r gwaith.

"Mae eu sefyllfa ariannol yn waeth, heb gymorth cyfreithiol fe fydd teuluoedd yn cael trafferth ymdopi."

Mae'r teulu yn disgwyl i arbenigwyr asesu faint o ofal ac offer fydd ei angen i helpu Olivia yn y dyfodol, cyn cytuno ar ffigwr iawndal terfynol.

Mae 'na rhai newidiadau eisoes wedi'u gwneud i'r mesur fydd yn caniatáu cymorth mewn rhai achosion o esgeulustod meddygol.

'Anodd a drud'

Ond yn ôl y cyfreithiwr Andrew Davies, mae 'na bryder yn dal i fod na fydd rhai achosion o anafiadau i'r ymennydd, fel yn achos Olivia, yn cael eu cynnwys.

"Rwy'n credu fod 'na ddadl gref y dylai'r rheiny sydd fwyaf bregus mewn cymdeithas gael ffordd o ddod â'u hachosion i'r llysoedd," meddai.

"Yr achosion hynny sy'n tueddu i fod y rhai mwya' anodd, y rhai drytaf - ac, i fod yn onest, cymorth cyfreithiol yw un o'r ffyrdd gorau o ddod ag achos i'r llys."

Nod y mesur newydd yw ad-drefnu'r system cymorth cyfreithiol, gan gyflwyno trefn newydd ble na fyddai yna ffi i'w dalu petai'r achos yn aflwyddiannus.

Gallai hyn olygu, felly, bod mwy o achosion yn cael eu hariannu'n breifat yn hytrach nag o'r pwrs cyhoeddus.

'Edifar'

Yn ôl llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Ar gost o dros £2.1bn y flwyddyn, mae gennym un o'r systemau cymorth cyfreithiol drytaf yn y byd, a dyw hyn ddim yn fforddiadwy yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni."

"Mae cymorth cyfreithiol yn rhan annatod o'r system gyfiawnder, ond mae 'na ddirfawr angen newid os ydym am gael system gyfiawnder gyfoes ac effeithlon.

"Rydym yn bendant y dylai achosion o esgeulustod clinigol yn ymwneud ag achosion obstetreg sy'n arwain at anabledd difrifol gael cymorth cyfreithiol.

"Rydym felly wedi gwneud newid i'r mesur fydd yn gwneud hyn yn glir o ran y gyfraith.

"Fe fydd 'na elfen o ddiogelwch yn parhau gydag achosion mwy difrifol a chymhleth, ble mae hawliau dynol yn ffactor."

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Rydym yn edifar am amgylchiadau'r achos hwn ac rydym wedi dod i gytundeb gyda'r teulu ym mis Ionawr, cyn y gwrandawiad llys.

"Mae'r ymddiriedolaeth yn cydweithio'n llwyr gyda thîm cyfreithiol y teulu i gwblhau'r trafodaethau clinigol a chyfreithiol i gytuno ar setliad terfynol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol