Oedi cyn agor drysau canolfan Pontio
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i waith adeiladu canolfan Pontio ym Mangor ddechrau ym mis Mai neu Fehefin wedi i gwmni adeiladu ennill y prif gytundeb.
Roedd disgwyl i ganolfan gelfyddydau ac arloesi'r brifysgol agor yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesa' ond fydd hi ddim yn agor ei drysau tan wanwyn 2014.
Cwmni Miller yw prif adeiladwyr y prosiect ar Ffordd Deiniol.
Mae'r ganolfan sy'n costio £40m wedi derbyn £27.5m gan Lywodraeth Cymru ac Ewrop.
Bydd yn cynnwys theatr gyda hyd at 550 o seddau, theatr stiwdio, sinema, lleoedd bwyta ac yfed yn ogystal ag undeb myfyrwyr newydd a nifer o adnoddau i helpu busnesau bach a chanolig.
'Anhygoel'
Ymhlith y rhai eraill sydd eisoes wedi'u dewis i weithio ar y prosiect mae cwmni peirianyddol Atkins, penseiri Grimshaw ac arbenigwyr theatr Arup.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Ystadau Prifysgol Bangor, Dylan Roberts: "Yn dilyn proses drylwyr iawn, mae Miller wedi cael eu dewis fel y prif gwmni ar gyfer adeiladu Pontio.
"Mae Pontio yn brosiect anhygoel ac rydym yn edrych 'mlaen at weithio gyda Miller.
"Bydd 'na ddigwyddiadau'n cael eu trefnu ar y cyd â Chyngor Gwynedd yn fuan i bobl gael cwrdd â'r contractwyr.
"Y nod yw hybu cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol yn ystod y broses adeiladu a helpu i roi cyfleoedd i fusnesau a gweithwyr lleol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2012