Canmoliaeth i Abertawe a Rodgers
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Abertawe a'u rheolwr Brendan Rodgers wedi cael eu canmol i'r cymylau...gan eu gwrthwynebydd nesaf.
Bydd rheolwr Everton, David Moyes, yn dod â'i dîm i Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn, ond cyn teithio fe soniodd am ei barch at ddull Abertawe o chwarae.
Pan gododd Yr Elyrch o'r Bencampwriaeth y tymor diwethaf, roedd sawl un yn darogan mai disgyn yn syth yn ôl fyddai eu hanes y tymor hwn, ond mae Moyes yn disgwyl gêm anodd dros ben.
"Mae yna burdeb yn perthyn i chwarae Abertawe," meddai, "ac rwy'n edmygu'n fawr yr hyn y maen nhw wedi gwneud.
"Rwy'n edrych ymlaen, ond fe fydd hon yn gêm anodd dros ben. Edrychwch ar yr ystadegau - maen nhw'n pasio tua 500-600 o weithiau ymhob gêm, ac mae hynny'n fwy na Manchester United ac Arsenal.
"Rhaid i ni felly ddisgwyl peidio cael y meddiant am gyfnodau hir. Mae Brendan wedi gwneud yn ardderchog ac wedi gweithio'n galed - mae'n haeddu popeth ar hyn o bryd."
O safbwynt tîm Abertawe, mae disgwyl i Ashley Williams ddychwelyd i ganol amddiffyn Abertawe wedi iddo fethu'r fuddugoliaeth yn erbyn Fulham oherwydd salwch.
Bydd Wayne Routledge yn debyg o barhau ar yr asgell wrth i Nathan Dyer orffen ei waharddiad o dair gêm wedi iddo weld y cerdyn coch yn erbyn Wigan.
Bydd Abertawe yn ceisio ennill eu pedwaredd gêm yn olynnol wrth groesawu Everton.
Carfan Abertawe v. Everton - Stadiwm Liberty - Dydd Sadwrn, Mawrth 24, 3:00pm :-
Vorm, Williams, Taylor, Caulker, Tate, Britton, Graham, Sinclair, Routledge, Monk, McEachran, Lita, Moore, Bessone, Rangel, Situ, Allen, Tremmel, Gower, Richards, Sigurdsson, Obeng.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2012