Bathodyn glas newydd i daclo 'gwylliaid y gofod'
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru'n dechrau delio'n llym â gyrwyr sy'n cam-drin system parcio'r anabl, y bathodyn glas.
Mae'n cyflwyno bathodynnau newydd i'w gosod ar ffenestri blaen, sy'n rhad ac am ddim i rai â bathodyn glas unigol yng Nghymru.
Bydd nifer o ddyfeisiadau diogelwch ar y bathodyn fydd yn eu gwneud yn llawer anoddach i'w ffugio a'u defnyddio'n dwyllodrus.
Wedi'u cysylltu i fas data newydd o ddeiliaid bathodynnau, bydd y bathodynnau'm ei gwneud yn llawer haws i'r heddlu a swyddogion gorfodaeth ddod o hyd i "wylliaid y gofod," y rhai sy'n cam-drin y system i barcio'n anghyfreithlon mewn mannau dynodedig ac sy'n achosi anghyfleustra enfawr - ac weithiau boen corfforol - i yrwyr anabl a'u teithwyr.
Defnyddio heb hawl
Mae'r bathodynnau newydd yn cael eu lansio'n swyddogol ddydd Llun yn Stadiwm Dinas Caerdydd gyda chymorth chwaraewyr rygbi Gleision Caerdydd fydd yn symud ceir wedi'u parcio'n anghyfreithlon i gynyddu ymwybyddiaeth o'r broblem.
Yng Nghymru mae tua 230,000 bathodyn glas yn cael eu defnyddio a 2.5 miliwn ar draws y DU.
Mae adroddiad Llywodraeth San Steffan wedi amcangyfrif bod defnydd twyllodrus neu anaddas o'r bathodynnau glas yn costio tua £46 miliwn y flwyddyn yn nhermau ffioedd parcio heb gael eu talu.
Yn helpu lansio'r bathodynnau newydd ddydd Llun mae'r cyn filwr anabl â bathodyn glas, Paul Davies, 49 oed o Fargoed.
Cafodd y cyn Ffiwsilwr Brenhinol Cymreig, dderbyniodd MBE yn 2011 am wasanaethau i rygbi a chynfilwyr y fyddin, ei barlysu o'r wast i lawr ar ôl cael ei anafu mewn gêm rygbi yn 1983.
'Embaras'
Mae Paul yn dweud ei fod yn dod ar draws "gwylliaid y gofod" yn rheolaidd.
"Dyw gyrwyr ddim yn cymryd sylw o'r arwyddion naill ai oherwydd diogi neu oherwydd nad ydyn nhw'n gwybod pa mor anodd mae'n gallu bod i berson anabl barcio mewn lle arferol.
"Mae ramp yn ein car ni, felly alla i ddim parcio mewn lle cul.
"Os nad oes lleoedd i'r anabl ar gael, rhaid i fy ngwraig stopio, gollwng y ramp cyn i fi fynd allan.
"Wedyn mae'n rhaid codi'r ramp, mynd yn ôl unwaith eto cyn i fy ngwraig orfod parcio'r car yn y lle parcio.
"Ar wahân i fod yn broses hir, mae'n dal y traffig i fyny, sy'n rhwystredig i yrwyr eraill ac yn embaras i mi.
"Byddai'n dda 'da fi 'se'r gyrwyr yn ystyried ychydig am ein sefyllfa ni."
Mae camddefnyddio'r cynllun bathodyn glas yn cynnwys gwneud copïau ffug yn ogystal â defnyddio bathodyn person gydag anabledd rhywun arall.
Ar y bathodynnau newydd mae nodweddion diogelwch sy'n cael eu cadw'n gyfrinachol iawn er mwyn sicrhau eu bod yn anodd iawn, iawn, eu ffugio.
'Yn ddifrifol'
Bydd yn ei wneud yn haws i swyddogion wirio'r manylion drwy'r ffenestri blaen.
Yn y lansiad dywedodd y Gweinidog Cymunedau, Carl Sargeant: "Pan mae pobl yn cam-drin bathodynnau glas neu leoedd parcio i'r anabl nad oes ganddyn nhw hawl i fod yno, maen nhw'n effeithio'n ddifrifol ar ansawdd bywyd yr unigolion sy'n cario bathodynnau'n gyfreithlon."
Bydd y bathodynnau glas newydd yn cael eu cyflwyno yn ystod y tair blynedd nesaf pan fydd y bathodynnau presennol yn cael eu hadnewyddu.
Bydd y rhain yn rhai plastig wedi'u hargraffu'n electronig ac â llun a gwybodaeth fydd yn cael eu cadw ar fas data canolog.
A bydd swyddogion gorfodaeth yn gallu gwirio gwybodaeth nid yn unig ar ddeiliaid bathodyn glas yn ardal eu hawdurdod lleol nhw ond o unrhyw le ar draws y DU.
Roedd y bathodynnau glas blaenorol o gardfwrdd ac wedi'u hysgrifennu â llaw, gan eu gwneud yn llawer haws i'w ffugio neu'u defnyddio'n amhriodol.