Cwmni Game wedi ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr a 79 o siopau Cymru yn cau
- Cyhoeddwyd
Fe fydd dros 2,000 o swyddi'n diflannu wrth i'r gwerthwr gemau fideo, Game, gael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr.
Mae 187 o bobl yn gweithio i'r cwmni yng Nghymru mewn 33 o siopau.
Dywedodd y gweinyddwyr eu bod nhw'n dal yn ffyddiog y bydd modd gwerthu Game.
Dywedodd y cwmni y bydd 277 o siopau yn cau yn syth, 11 yng Nghymru.
Fe fydd y 333 o siopau eraill y DU yn parhau ar agor yn ôl y gweinyddwyr PricewaterhouseCoopers (PwC).
Dywedodd bod y cwmni wedi diodde' o ganlyniad i gystadleuaeth ar y we.
Mae gan y cwmni siopau yng Ngweriniaeth Iwerddon, Ffrainc, Sbaen, Portiwgal, Sweden, Norwy, Denmark, Awstralia a'r Weriniaeth Siec.
Mae'r gweinyddwyr wedi dweud nad oes modd defnyddio cardiau anrheg yn y siop ar hyn o bryd.
Mae tua 385 o weithwyr yn y pencadlys yn Basingstoke yn Sir Hampshire a thua 5,100 yn eu siopau yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon.
Caiff tua 5,000 o staff eu cyflogi mewn gwledydd eraill.
Mae'r cwmni yn gweithredu o dan yr enw Game a Gamestation.