Penodi Llywydd i Eisteddfod Bro Morgannwg
- Cyhoeddwyd
Euryn Ogwen Williams, cyn-ddirprwy brif weithredwr S4C, fydd Llywydd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg eleni.
Yn wreiddiol o Benmachno yn Nyffryn Conwy mae'n wyneb adnabyddus yn y byd darlledu.
Bydd yr Eisteddfod eleni yn cael ei chynnal ar hen safle maes awyr Llandŵ ger Y Bont-faen a Llanilltud Fawr rhwng Awst 4-11.
Bydd Mr Williams yn dilyn nifer o Gymry amlwg yn ei rôl fel Llywydd yr Ŵyl, gyda'r cyn-Brif Weinidog, Rhodri Morgan, Yr Arglwydd Gwilym Prys Davies, Yr Athro Prys Morgan, Guto Harri, Daniel Evans a Mair Carrington Roberts, i gyd wedi bod yn Lywyddion dros y blynyddoedd diwethaf.
Cafodd Mr Williams ei benodi yn bennaeth rhaglenni S4C pan ddechreuodd y sianel yn 1982, a bu yno am 10 mlynedd, gan weithredu fel Dirprwy Brif Weithredwr yn ogystal o 1988-1991.
Ar ôl gadael S4C, bu'n ymgynghorydd yn Yr Alban i'r gwasanaeth teledu Gaeleg, yn Iwerddon i'r gwasanaeth Gwyddeleg, a bu hefyd yn gweithio fel ymgynghorydd i S4C yn ystod y cyfnod ar gychwyn teledu digidol.
Mae'n enillydd ac yn feirniad yn Adran Lenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn awdur cyfrol o farddoniaeth.
Ef yw Cadeirydd Pwyllgor Llenyddiaeth Eisteddfod Bro Morgannwg eleni.