Addysg: Galw am ddefnydd o dechnoleg

  • Cyhoeddwyd
School children with laptopsFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn argymell sefydlu llyfrgell ar-lein genedlaetol o adnoddau dysgu

Mae adolygiad o'r modd y mae athrawon a disgyblion yn defnyddio technoleg yn argymell creu sefydliad allai ddatblygu system addysgu ddigidol ar gyfer Cymru.

Dywedodd y byddai corff cyhoeddus yn gallu sefydlu llyfrgell ar-lein genedlaethol o adnoddau, meddalwedd a deunyddiau hyfforddi yn Saesneg a Chymraeg.

Mae'r grŵp a gadeiriwyd gan Janet Hayward, pennaeth ysgol gynradd ym Mro Morgannwg, hefyd yn argymell mwy o hyfforddiant a chefnogaeth i athrawon ar sut i ddefnyddio'r math o dechnoleg llaw sy'n gyffredin ym mywyd pob dydd bellach.

Casgliad yr adroddiad yw bod angen "newid y defnydd o dechnolegau digidol o fod yn rhywbeth achlysurol i fod yn hollbresennol ac yn cael ei gymryd yn ganiataol mewn addysg drwy Gymru".

Hyfforddiant

Mae'r adroddiad yn cydnabod mai hyfforddi athrawon yw'r allwedd i wella'r defnydd o dechnoleg ddigidol yn y dosbarth.

Dywed yr adroddiad: "Nid yn unig y bydd athrawon yn hanfodol wrth gyflawni dysgu gyda thechnoleg a hybu adnoddau dysgu digidol, ond hefyd wrth greu adnoddau a'u rhannu gydag athrawon eraill a helpu i ddatblygu hinsawdd dysgu ddigidol."

Mae'n argymell hefyd hyfforddiant i athrawon presennol a bod dysgu digidol yn rhan o hyfforddiant athrawon y dyfodol ar gyrsiau ôl-radd.

Argymhelliad arall yw y dylid creu llyfrgell ar-lein o adnoddau addysgu, gyda 'banc' canolog o ddeunyddiau, meddalwedd ac 'appiau' fyddai ar gael i bawb.

Byddai'r adnoddau yn ddwyieithog pan fo hynny'n bosib.

Un awgrym yw y dylid meithrin cysylltiadau gyda ffynonellau dibynadwy fel y Llyfrgell Genedlaethol a'r Amgueddfa Genedlaethol.

'Chwyldroadol'

Cafodd yr adolygiad ei gomisiynu y llynedd gan y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, ac wrth ymateb i'r canlyniadau dywedodd:

"Gall technolegau newydd gynnig dulliau newydd er mwyn cynnal diddordeb addysgwyr.

"Gall cynnwys digidol, mynediad diwifr yn y dosbarth, cyfrifiadura cwmwl a dyfeisiadau symudol sgrin-gyffwrdd chwyldroi'r modd yr ydym yn cyfathrebu a rhannu gwybodaeth gyda'n gilydd yn yr 21ain ganrif.

"Nid yw'n afresymol o ddysgwyr, rhieni ac athrawon i ddisgwyl bod y dechnoleg y maent yn ei defnyddio yn eu bywyd pob dydd hefyd ar gael ym myd addysg.

"Ar draws Cymru fe welwch amryw declynnau technolegol yn cael eu defnyddio'n ddyfeisgar ar gyfer dysgu.

"Mae'n bwysig bod gan bob athro fynediad at y dechnoleg briodol, ac yn gallu ei defnyddio'n hyderus. Rydym yn gwybod bod ymarfer da allan yna, ond fel llawer o bethau eraill mewn addysg mae'n bwysig i ysgolion ddysgu a rhannu'r syniadau gorau.

"Rwyf am i Gymru arwain ar addysgu digidol, ac mae'r adroddiad yma'n dangos sut y medrwn gyrraedd y nod hwnnw."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol