Galw am newid gwersi technoleg gwybodaeth
- Cyhoeddwyd
Mae 'na bryder y bydd disgyblion yng Nghymru ar ei hôl hi yn y dyfodol o ran addysg technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.
Fe fydd y cwricwlwm yn newid yn Lloegr er mwyn caniatáu i blant a phobl ifanc arloesi drwy greu eu rhaglenni cyfrifiadurol eu hunain.
Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu'r sefyllfa ar hyn o bryd.
Ond mae arbenigwyr yn rhybuddio y bydd disgyblion Lloegr ar y blaen os na fydd Cymru'n efelychu'r hyn sy'n digwydd dros y ffin.
"Diflas a niweidiol", dyna ddisgrifiad Ysgrifennydd Addysg San Steffan, Michael Gove, o'r cwricwlwm presennol ar gyfer gwersi technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.
O fis Medi ymlaen, mi fydd hi'n bosib i ddisgyblion yn Lloegr gael y cyfle i weithio ar greu apps eu hunain a chreu cod er mwyn ffurfio rhaglenni cyfrifiadurol.
Ffordd o feddwl
Y bwriad ydi cael y disgyblion i wneud y deunydd yn ogystal â'i ddefnyddio.
Ond yn ôl nifer sy'n gweithio yn y maes, mae 'na bryder os na fydd Cymru'n dilyn yr un llwybr y bydd plant a phobl ifanc yma ar ei hôl hi.
Mae Alun Davies yn bennaeth technoleg i gwmni Cube Interactive ym Mae Caerdydd.
"Fe fydd y disgyblion yn Lloegr yn bendant gam ymlaen i rai Cymru," meddai.
"Yn hytrach na dysgu'r sgiliau mae dysgu ysgrifennu cod yn rhoi modd o feddwl newydd i chi.
"Mae'n fodd o ystyried datrys problemau yn wahanol ac mae'n gweithio mewn sawl sefyllfa dim dim ond ysgrifennu cod."
Ar hyn o bryd, mae ysgolion yn dysgu'r disgyblion sut i ddefnyddio rhaglenni fel prosesydd geiriau a sut i greu dogfennau ac ati.
Mae rhai arbenigwyr yn dweud y dylai hynny aros o fewn y cwricwlwm ond bod angen dysgu sut mae cyfrifiaduron yn gweithio'n wyddonol hefyd.
"Dwi wedi gweld rhai o'r adroddiadau bod Michael Gove wedi dweud bod modd dysgu'r pethau yma mewn ychydig oriau," meddai Glyn Howells sy'n gyfrifol am y pwnc ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
"Dyw hynny ddim yn wir. Mae rhai o'r rhaglenni yn soffistigedig iawn erbyn hyn ac yn gallu gwneud llawer mwy na ellir ei ddysgu mewn cwpl o oriau.
"Dwi'n credu bod angen y ddwy agwedd yma."
Argymhellion
Wrth ymateb i'r datblygiad yn Lloegr, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod grŵp o bobl bellach yn gweithio ar adroddiad sy'n edrych ar addysgu digidol yn y dosbarthiadau.
Mae'r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, yn disgwyl yr adroddiad gan gadeirydd y grŵp ddiwedd mis Mawrth ac mae'n credu y gall Cymru arwain y ffordd o ran addysg technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.
Mae'r Gweinidog hefyd yn barod i dderbyn argymhellion newydd yn y maes.
Ceisio sicrhau'r sgiliau mwya' addas i blant a phobl ifanc yr 21ain Ganrif ydi nôd Llywodraeth San Steffan.
A gyda Llywodraeth Cymru'n barod i drafod syniadau ar sut i ddiwygio gwersi cyfrifiadurol yn ein hysgolion, mae nifer yn grediniol fod angen i hynny ddigwydd yn fuan er mwyn sicrhau bod dyfodol y diwydiant yng Nghymru efo'r un sgiliau a'u cyfoedion dros Glawdd Offa.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2011