Ombwdsmon yn beirniadu prif weithredwr

  • Cyhoeddwyd
Joan PaskFfynhonnell y llun, Not Specified
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Joan Pask yn 2006 yn dilyn llawdriniaeth

Mae Ombwdsmon Cymru wedi beirniadu prif weithredwr ymddiriedolaeth iechyd am y modd y deliodd gyda chŵyn gan ferch i glaf fu farw yn dilyn llawdriniaeth.

Nododd nad oedd y prif weithredwr benywaidd wedi datgelu ei bod yn briod gyda'r ymgynghorydd oedd yn rhan o'r tîm oedd yn gyfrifol am drin y claf wrth ymateb i'r cwynion.

Roedd y cwynion wedi eu gwneud i'r hen Ymddiriedolaeth GIG Pontypridd a'r Rhondda sydd bellach yn rhan o Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf.

Prif weithredwr yr ymddiriedolaeth oedd Margaret Foster. Aeth ymlaen i fod yn brif weithredwr Bwrdd Iechyd Bro Taf cyn ymddeol yn ddiweddarach.

Ychwanegodd yr ombwdsmon, Peter Tyndall, bod y cyn brif weithredwr wedi cynnwys ymddiheuriad i'r cwynwr fel rhan o'i adroddiad, ond dywedodd y byddai'r ymddiheuriad wedi bod yn fwy ystyrlon pe bai wedi ei wneud i'r cwynwr yn bersonol.

Ymchwiliad heddlu

Daeth cŵyn i'r ombwdsmon gan Rhiannon Collinson ar Orffennaf 1, 2007 am y driniaeth a gafodd ei mam, Joan Pask, yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.

Dechreuodd ymchwiliad Mr Tyndall yn syth ond yna fe gafodd ei ohirio pan ddaeth yn amlwg bod y driniaeth a gafodd Mrs Pask, o Lanilltud Faerdref ger Pontypridd, yn destun ymchwiliad gan Heddlu De Cymru.

Yn dilyn cwest Mrs Pask yn Hydref 2010, fe ail ddechreuodd yr ymchwiliad gan ganolbwyntio y tro hwn ar y modd y deliodd prif weithredwr yr ymddiriedolaeth iechyd gyda chwynion Mrs Collinson.

Yn ystod yr ymchwiliad, fe ddaeth yn amlwg bod Margaret Foster wedi ymateb trwy lythyr deirgwaith heb gyfeirio at y ffaith ei bod yn briod gyda'r ymgynghorydd oedd yn arwain y tîm fu'n trin Mrs Pask.

O ganlyniad i'r digwyddiad mae'r Bwrdd Iechyd Lleol a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu a chyhoeddi canllawiau newydd i ddelio gyda gwrthdaro diddordeb mewn achosion o'r fath.

'Gwrthdaro'

Yn ei adroddiad, dywedodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Peter Tyndall:

"Mae fy ymchwiliad wedi dangos nad oedd y prif weithredwr wedi datgan y ffaith ei bod yn briod gyda'r ymgynghorydd wrth ymateb i gŵyn Mrs Collinson.

"Daeth yn amlwg i mi hefyd bod yr ymgynghorydd dan sylw wedi chwarae rhan amlwg yn un o'r llawdriniaethau a gafodd Mrs Pask, ac oedd yn destun cŵyn Mrs Collinson.

"Roedd yn bolisi gan yr hen ymddiriedolaeth y dylai'r prif weithredwr ymateb i bob cŵyn, ond roedd darpariaeth glir i hyn gael ei wneud gan y dirprwy brif weithredwr yn ogystal.

"Yn fy marn i roedd methiant y cyn brif weithredwr i ddatgan ei chysylltiad gyda'r ymgynghorydd wedi arwain at ganfyddiad o wrthdaro diddordeb, ac rwyf felly yn cadarnhau'r gŵyn.

"Yr unig argymhelliad sydd gen i yw bod y Bwrdd iechyd yn ymddiheuro'n ffurfiol am y modd y deliwyd â'r gŵyn gan y cyn-ymddiriedolaeth.

"Mae'r cyn-brif weithredwr wedi darparu ymddiheuriad yn yr adroddiad hwn. Rwyf yn ystyried yr ymddiheuriad yn briodol er y byddai ymddiheuriad uniongyrchol i Mrs Collinson wedi bod yn fwy ystyrlon."

Nododd Mr Tyndall bod Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf eisoes wedi gweithredu ei argymhelliad drwy ymddiheuro i Mrs Collinson.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol