Mwy o gyllid i brifysgolion?
- Cyhoeddwyd
Bydd mwyafrif prifysgolion Cymru yn gweld cynnydd bach yn eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a hynny oherwydd yr incwm o ffioedd dysgu uwch.
Ond bydd Prifysgol Glyndŵr yn Wrecsam yn gweld toriad o 20% yn ei chyllideb.
Mae ffigyrau newydd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) yn dangos y bydd yr arian craidd y mae'n rhoi i bob sefydliad yn gostwng o gyfartaledd o 37% o'i gymharu â'r llynedd, ond bydd y gwahaniaeth yn cael ei dalu gan y miliynau o bunnau o ffioedd myfyrwyr.
Mewn tair o brifysgolion Cymru, bydd yr incwm o ffioedd yn uwch na'r arian a glustnodwyd ar eu cyfer gan HEFCW yn 2012-13.
O fis Medi eleni, bydd prifysgolion yn medru codi hyd at £9,000 y flwyddyn am eu cyrsiau - mae 8 o'r deg sefydliad yng Nghymru wedi dewis gwneud hynny.
Bydd mwyafrif y myfyrwyr o Gymru yn talu'r £3,400 cyntaf gyda Llywodraeth Cymru yn talu'r gwahaniaeth lle bynnag y byddan nhw'n dewis astudio.
Amcangyfrif HEFCW yw y bydd y polisi yna'n costio £111 miliwn yn 2012/13, gyda'r ffigwr yn codi dros y tair blynedd nesaf.
Ar y llaw arall maen nhw'n amcangyfrif y bydd prifysgolion Cymru yn elwa o tua £55 miliwn mewn ffioedd uwch gan fyfyrwyr o weddill y DU.
'Gambl'
Dywedodd yr Athro Philip Gummett, prif weithredwr HEFCW: "Dylai'r sustem newydd olygu y bydd y buddsoddiad mewn addysg uwch yng Nghymru yn cynyddu o 2012/13, ac fe fydd hynny o fudd i fyfyrwyr a staff gan gael effaith bositif ar gyrsiau ac ymchwil.
"Mae'r sector cyhoeddus cyfan mewn amgylchedd ariannu heriol, ond rydym yn hyderus y bydd prifysgolion Cymru yn parhau i gynnig y profiad i fyfyrwyr sydd wedi ennill clod droeon a thro."
Ond dywedodd llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Syr John Cadogan, y bydd y sustem newydd yn gambl i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Dywedodd: "Rhan o bolisi Llywodraeth Cymru yw caniatáu i fyfyrwyr sy'n byw yng Nghymru i gael cymhorthdal sylweddol i'w ffioedd ac fe fydd y gost o hynny yn dod o'r arian fyddai wedi mynd i brifysgolion.
"Mae'n gambl felly - ac rwy'n defnyddio'r gair gambl yn ofalus - maen nhw'n gamblo y byddan nhw'n medru denu llawer o fyfyrwyr o Loegr neu o dramor er mwyn cyfateb i'r myfyrwyr sy'n gadael."
'Siom'
Dywedodd Prifysgol Glyndŵr eu bod yn siomedig y byddan nhw'n gweld gostyngiad o 20% yn eu cyllideb i'r gwrthwyneb i brifysgolion eraill Cymru.
Penderfynodd y brifysgol godi ffioedd o £6,643 ar gyfartaledd yn 2012/13.
Dywedodd Is-Ganghellor a phrif weithredwr y brifysgol, yr Athro Michael Scott:
"Yn naturiol mae'r Brifysgol yn siomedig am y cyhoeddiad yma, ond roedden ni'n disgwyl gostyngiad ar y raddfa yma ac wedi bod yn cynllunio am hynny am beth amser.
"Wrth osod lefel y ffioedd i fyfyrwyr ar gyfer 2012/13 fe wnaethon ni ddewis ffioedd fyddai'n lleihau'r baich ar ysgwyddau myfyrwyr a Llywodraeth Cymru, ond fyddai hefyd yn cwrdd â gofynion cyfiawnder cymdeithasol a datblygu economaidd Llywodraeth Cymru.
"Mae'n drueni felly bod y Brifysgol dan anfantais o gymharu â phrifysgolion eraill am ddilyn polisi'r llywodraeth."
Bydd Prifysgol Cymru Casnewydd yn gweld cynnydd o 0.7% yn ei chyllideb o'r flwyddyn ddiwethaf a dywedodd llefarydd:
"Er y bydd pwysau chwyddiant yn gwneud y flwyddyn nesaf yn anodd iawn, rydym yn cydnabod fod gan HEFCW dasg anodd i gydbwyso'i gyllideb a chwrdd â'r gofynion i gefnogi myfyrwyr yn ariannol.
"Yn y cyfnod ariannol anodd y mae pawb yn eu hwynebu, bydd Prifysgol Casnewydd yn parhau i ddefnyddio'i hadnoddau yn ofalus er mwyn cadw at ein blaenoriaethau i'r dyfodol, a'r ymrwymiadau a wnaethom yn ein cynllun ffioedd 2012."
'Angen arbedion'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd y gyfundrefn ffioedd a gyflwynwyd mewn addysg uwch o 2012/13 yn arwain at gyllid uwch ar y cyfan i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.
"Mae hyn wedi ei gyflawni mewn cefndir o doriadau i Gymru yn adolygiad gwariant diweddaraf llywodraeth y DU.
"Rydym wedi ymrwymo o hyd i ddarparu addysg uwch o safon uchel yng Nghymru.
"Ond yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae'n hanfodol bod y sector addysg uwch yng Nghymru yn gwneud y gorau o'r buddsoddiad cyhoeddus sylweddol gan Lywodraeth Cymru, yn delifro newid ac yn chwilio am arbedion effeithlonrwydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2011