Y cyn-Archdderwydd Emrys Deudraeth wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Y Cyn-Archdderwydd Emrys Deudraeth
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Emrys Roberts Y Gadair yn 1967 a 1971

Bu farw Emrys Deudraeth neu Emrys Roberts, yr Archdderwydd rhwng 1987 a 1990, yn 82 oed.

Enillodd y Gadair ddwywaith, ym Mhrifwyl y Bala yn 1967 gydag awdl Y Gwyddonydd ac ym Mangor yn 1971 gydag awdl Y Chwarelwr.

Cafodd ei eni yn Lerpwl yn 1929 cyn symud i Benrhyndeudraeth ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd.

Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Y Bermo a'r Coleg Normal ym Mangor.

Bu'n athro yn Ynys Môn a Chroesoswallt cyn dod yn brifathro Ysgol y Banw yn Llangadfan, Sir Drefaldwyn.

'Cyfraniad mawr'

Roedd yn olygydd colofn farddol Y Cymro rhwng 1977 a 1981 a chyhoeddodd ddetholiad o'r cynnyrch yn Byd y Beirdd yn 1983.

Fe gyhoeddodd bum cyfrol o farddoniaeth i oedolion a phlant yn ogystal â nifer o nofelau antur i blant.

Fe enillodd ei dad, Monallt, Gadair Arian Eisteddfod Caerwys yn 1968 ac Emrys Deudraeth luniodd y gyfrol deyrnged, Monallt - Portread o Fardd-gwlad.

Dywedodd y Cyn-Archdderwydd Robyn Llŷn: "Roedd wedi bod yn diodde' am 10 mlynedd a mwy ac roedd ei iechyd yn dirywio.

"Mae o wedi gwneud cyfraniad mawr i ddiwylliant Cymru.

"Roedd yn ŵr hoffus ac yn cael ei werthfawrogi fel Archdderwydd.

"Fe fydd 'na golled yn sicr ar ei ôl."

Hefyd gan y BBC