'Cyfle yn hytrach na bygythiad' yw ehangu Maes Awyr Bryste i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr CaerdyddFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer y teithwyr o Faes Awyr Caerdydd wedi gostwng 13% yn 2011 i ychydig dros 1.2m

Mae Prif Weithredwr Maes Awyr Bryste wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried y ffaith bod ei fusnes yn ehangu fel "cyfle yn hytrach na bygythiad".

Dywedodd Robert Sinclair ei fod yn barod i weithio gyda chyrff twristiaeth Cymru i wella gwasanaethau y mae'r maes awyr yn ei gynnig i deithwyr o Gymru.

Yn ôl Maes Awyr Bryste mae tua 700,000 o'r 5.7 miliwn o deithwyr yn dod o Gymru.

Y llynedd dim ond 1.2 miliwn o deithwyr ddefnyddiodd Maes Awyr Caerdydd.

Fe fydd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, yn arwain tasglu ar "wendidau" Caerdydd.

Mae o wedi beirniadu perchnogion y safle yn Y Rhŵs, Abertis o Sbaen.

Cyd-weithio

Dywedodd na fyddai am groesawu ymwelwyr i Gymru drwy'r maes awyr am ei fod yn rhoi argraff wael o'r wlad.

Daw ei sylwadau ar ôl iddi ddod i'r amlwg bod nifer y teithwyr wedi gostwng 13% y llynedd i ychydig dros 1.2 miliwn gyda'r nifer yn cynyddu 1% ym Mryste i 5.7 miliwn.

Robert SinclairFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Robert Sinclair bod de Cymru yn rhan o'u hardal darged

Dywedodd Abertis eu bod am gyd-weithio gyda Llywodraeth Cymru.

Ond mae Maes Awyr Bryste hefyd am gyd-weithio gyda Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Mr Sinclair wrth raglen BBC Cymru Eye on Wales bod de Cymru yn rhan "o'n hardal darged am deithwyr".

"Yn sicr dydan ni ddim yn canolbwyntio ar ffiniau gwledydd.

"Mewn gwirionedd, dim ond 24 milltir ydan ni o'r ffin.

"Mae Casnewydd hanner ffordd rhwng y ddau faes awyr.

"Yn sicr, rydan ni'n gweld y farchnad yng Nghymru fel un pwysig i ni.

"Rydym yn bryderus bod y ddadl yn canolbwyntio ar ffiniau gwledydd yn hytrach na'r hyn sydd o fudd i deithwyr Cymru."

Gwasanaethu Cymru

Dywedodd ei fod am weld Llywodraeth Cymru yn edrych ar Faes Awyr Bryste fel cyfle yn hytrach na bygythiad" ac y byddai'r llywodraeth yn cydweithio gyda'r maes awyr i "edrych ar ffyrdd o gynyddu a gwella gwasanaethau i deithwyr o Gymru."

"Rydym yn awyddus i gydweithio yn agosach gyda rhai mudiadau twristiaeth yng Nghymru i hyrwyddo Cymru fel atyniad a hynny drwy ddefnyddio Bryste."

Dywedodd Mr Sinclair ei fod wedi cysylltu gyda Mr Jones yn y gobaith o drafod yr hyn all Maes Awyr Bryste ei gynnig o ran gwasanaethau i bobl Cymru".

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y Prif Weinidog wedi gwneud ei safbwynt yn glir ar fwy nag un achlysur.

"Mae o am i Faes Awyr Caerdydd dyfu a dod yn faes awyr o safon byd eang.

"Dydi'r sefyllfa bresennol ddim yn ddigonol.

"Er mwyn cyrraedd hyn, mae'n teimlo ei bod yn bwysig cydnabod gwendidau'r maes awyr er mwyn gallu symud ymlaen.

"Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi y bydd yn sefydlu tasglu i drafod y materion yma ac y bydd cyhoeddiad pellach yn fuan."

Dydd Sadwrn gwelwyd y daith gyntaf o Gaerdydd gan gwmni Vueling o Sbaen i Barcelona.

Cyhoeddodd Vueling eu bwriad i deithio i Barcelona o Gaerdydd ym mis Hydref, deuddydd cyn i Bmibaby ddod a'u gwasanaeth o Gaerdydd i ben oherwydd gostyngiad yn nifer y teithwyr.

Fe fydd Vueling yn cynnal gwasanaethau ar ddydd Mawrth, Iau a Sadwrn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol