Gwobrau: Enwebiadau i S4C
- Cyhoeddwyd

Roedd y stori am Jo Purcell a'i geffyl wedi denu sylw mawr
Mae rhaglen S4C am hanes sipsi a'i geffyl a gwasanaeth meithrin S4C wedi eu henwebu yng Ngwobrau Digidol Broadcast 2012.
Bydd Cyw yn herio rhai o enwau mwyaf y byd teledu yn y categori Sianel Plant y Flwyddyn gan gynnwys CBeebies a Cartoon Network.
Mae'r rhaglen Jo a Ruby (cynhyrchiad Chwarel) wedi'i henwebu yn y categori Cynnwys Newyddion neu Faterion Cyfoes Gorau.
Fe wnaeth stori'r gŵr a'i geffyl gwyn ddenu sylw'r cyfryngau ar ôl i'r ddau gael eu gweld yng ngorsaf drên Wrecsam, yn y feddygfa ac o flaen tafarn yn y dref.
Cafodd y ddau eu ffilmio ar gamerâu cylch cyfyng Ysbyty Maelor Wrecsam wrth y dderbynfa, ac fe wnaeth siopwyr gymryd lluniau o'r anifail yn cael ei arwain i dafarn yn y dref.
Yn sgil hynny, comisiynwyd rhaglen ddogfen oedd yn olrhain stori'r ddau, Jo Purcell, dyn 71 oed, a'i geffyl, Ruby a'r gymuned trafaelwyr sipsi bu'r ddau yn perthyn iddi.
Cynhelir y gwobrau yn Llundain ym mis Mehefin.
'Stori drist a gafaelgar'
Dywedodd Geraint Rowlands, Cyfarwyddwr Comisiynu dros dro S4C: "Llwyddodd stori drist a gafaelgar Jo a Ruby gydio yn nychymyg y gynulleidfa a chynnig cipolwg ar gymuned trafaelwyr sipsi yn Wrecsam ar yr un pryd.
"Mae Cyw yn parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr i ddyfodol yr iaith Gymraeg ac yn cyfoethogi bywydau ac addysg plant yng Nghymru a thu hwnt saith niwrnod yr wythnos."
Ers ei lansio yn 2008, mae gwasanaeth Cyw wedi'i henwebu yng ngwobrau BAFTA Plant yng nghategori Sianel y Flwyddyn ar ddau achlysur ac mae rhaglenni Cyw wedi dod i'r brig yng ngwobrau RTS, Broadcast, BAFTA Cymru a'r Ŵyl Gyfryngau Celtaidd.

Y ferlen mewn tafarn yn Wrecsam
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2012