Chwalad i'r Gleision
- Cyhoeddwyd

Isa Nacewa a Rob Kearney'n herio
Leinster 34-3 Gleision
Mae Leinster wedi cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Heineken wedi buddugoliaeth ysgubol yn erbyn Gleision Caerdydd.
Ciciodd Leigh Halfpenny gic gosb i'r Cymry ond roedd y Gwyddelod ar y blaen o 27-3 ar yr egwyl oherwydd ceisiadau Isa Nacewa, Rob Kearney a Brian O'Driscoll.
Yn yr ail hanner sgoriodd Kearney unwaith eto a llwyddodd y maswr, Jonathan Sexton, i drosi bedair gwaith a chicio dwy gic gosb.
Roedd y Gwyddelod yn ddidrugaredd wrth ennill eu 13edd gêm yn y gystadleuaeth.
Hwn oedd y tro ola i Gethin Jenkins, Casey Laulala a Martyn Williams chwarae i'r Gleision a rhybuddiodd eu hyfforddwr, Gareth Baber, eu bod yn wynebu "cyfnod anodd" heb y sêr.
Mae gobeithion timau Cymru yng Nghwpan Heineken wedi dod i ben tan y tymor nesa.
LEINSTER (27) 34
Ceisiadau: Nacewa, Kearney 2, O'Driscoll Ciciau cosb: Sexton 2 Trosiadau: Sexton 4
CARDIFF (3) 3
Cic gosb: Halfpenny