Pwy ddylai elwa o ddŵr Cymru?
- Cyhoeddwyd
Mae cyn Gadeirydd a Phrif Weithredwr Dŵr Cymru wedi galw ar i ddŵr Cymru gael ei drin fel busnes ac y dylai, fel adnodd naturiol, gael ei 'werthu' i wneud arian yn yr un ffordd ag olew.
Mae John Elfed Jones yn gwneud ei sylwadau mewn cyfweliad gyda rhaglen materion cyfoes BBC Cymru Taro Naw, i'w darlledu ddydd Mawrth.
Mae'n dweud y dylid hefyd roi ystyriaeth ddifrifol i drosglwyddo dŵr o Gymru i Loegr, gan ddweud y dylai Cymru elwa o hyn.
Gyda rhannau o'r Deyrnas Unedig yn wynebu sychder mae trafod cynyddol ynglŷn â throsglwyddo dŵr o ucheldiroedd Cymru i dde ddwyrain Lloegr.
Ddydd Mawrth, fe wnaeth cwmni Severn Trent, sydd yn cyflenwi dŵr i Ganolbarth Cymru, gadarnhau cynlluniau i werthu 30 miliwn litr y dydd i gwmni arall, sef Anglian Water, i helpu gyda'r prinder dŵr presennol.
'Yn rhy gostus'
Dywedodd Mr Jones; "Yn yr hanner can mlynedd nesa fydd y trigolion bryd hynny yn troi rownd a gofyn 'pam yn enw'r tad ddaru nhw ddim gwario'r arian bryd hynny i wneud yr holl drefniant?
"Dwi'n meddwl bod hi'n hen bryd i ni ystyried gwneud hynny… Diffyg egni a diffyg gweledigaeth yn aml iawn sy'n peri i ni fod mewn helyntion yn rhy aml".
Dywedodd Dŵr Cymru wrth Taro Naw nad yw'n bosib ar hyn o bryd i symud dŵr o Gymru i'r de ddwyrain gan fod yr adnoddau ddim ar gael i wneud hynny.
" Fydde fe'n rhy gostus ac wrth gwrs ddim yn ymarferol o ran yr amgylchedd," meddai Dŵr Cymru.
Ond gyda galw cynyddol am ddŵr o ardaloedd poblog de ddwyrain Lloegr bydd un o arbenigwyr y DG ar drosglwyddo dŵr, y peiriannydd sifil John Lawson, yn dweud wrth y rhaglen mai ehangu un o gronfeydd Cwm Elan yng nghanolbarth Cymru yw'r opsiwn gorau i ddelio gyda problem sychder.
'Adnodd sylweddol'
Mae hefyd yn galw am astudiaeth bellach i'r opsiwn hwn.
"O'r astudiaethau rydw i wedi eu gwneud yn y gorffennol mae'r astudiaethau hynny yn arwain nôl i gynyddu cronfa ddŵr Craig Goch os ydych chi eisiau adnodd sylweddol ar gyfer dde Lloegr," meddai.
"Nes y bydd tystiolaeth ar gael i ddangos nad yw hyn yn bosib, efallai ar sail amgylcheddol, yna dwi'n meddwl mai dyma'r ffordd orau."
Bydd Taro Naw yn edrych ar ymarferoldeb trosglwyddo dŵr yn y dyfodol ac yn clywed gan ffermwyr Cymreig yn ne Lloegr sy'n wynebu problemau difrifol gyda chynhyrchu cnydau oherwydd y sychdwr.
Bydd cyn is-gadeirydd yr NFU Gwyn Jones, sy'n ffermio yn Sussex ac wedi buddsoddi £150,000 mewn cynhyrchu india corn, yn dweud wrth y rhaglen: "Petai pethau'n sychach fydde pethau'n methu'n gyffredinol, a fydde hi'n ddrwg iawn arno ni wedyn," meddai.
Bydd y rhaglen hefyd yn holi barn trigolion Llundain ynglŷn â thalu am drosglwyddo dŵr o Gymru i'r de ddwyrain yn y dyfodol.
Wrth siarad ar raglen Jeremy Vine ar BBC Radio 2 ym mis Chwefror eleni, dywedodd Elfyn Llwyd y dylai unrhyw drefniant i gyflenwi dŵr o Gymru gael ei wneud ar sail fasnachol.
Dywedodd AS Dwyfor Meirionnydd y pryd hynny: "I fod yn realistig, rhaid i mi ddweud nad wyf yn gweld rheswm pam - os yw Llywodraeth Cymru gyda chefnogaeth pobl Cymru am gyrraedd rhyw fath o gytundeb - yna pam lai?
"Gallwn gael cytundeb cyfeillgar gyda phobl Lloegr, ond ar sail fasnachol, ac rwy'n credu bod hynny'n gwbl briodol.
"Nid rhyw fath o sefyllfa OPEC fyddai hyn lle mae pris dŵr yn cynyddu deg gwaith dros nos - na - dim ond trefniant cyfeillgar, rhesymol ond masnachol."
Taro Naw, Dydd Mawrth, Ebrill 10, BBC Cymru ar S4C, 9.30pm
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2012