Jonathan Pryce yn noddi sinema ym Mhrestatyn
- Cyhoeddwyd
Mae un o sêr y ffilmiau, Jonathan Pryce, wedi dod yn noddwr sinema'r Scala ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych.
Mae Mr Pryce yn dod yn wreiddiol o Garmel ger Treffynnon ac ef yw'r person cyntaf i fod yn noddwr i'r sinema, sydd hefyd yn ganolfan y celfyddydau.
Dywedodd rheolwr y Scala, Chris Bond, y gobeithiai y byddai Mr Pryce yn dod i Brestatyn i gynnal sesiynau holi ac ateb.
Dywedodd hefyd ei bod wrth ei fodd bod Mr Pryce wedi cytuno i fod yn noddwr.
"Mae'n dweud ei fod yn awyddus iawn i ddod i'r Scala," meddai Mr Bond.
"Mae gennym bobl sydd yn gwneud ffilmiau yma a dywedodd yr hoffai ein helpu mewn unrhyw ffordd y medrai."
Mae Jonathan Pryce, a gafodd y CBE yn 2009, wedi cael ei ddisgrifio yn un o actorion mwyaf amlochrog Prydain.
Cafodd ei eni ym 1947 a'i fagu yn Nhreffynnon, Sir y Fflint, lle roedd ei dad, a oedd yn gyn löwr, yn rhedeg siop.
Chwaraeodd ran Elliot Carver yn Tomorrow Never Dies ym 1997, a hefyd tad Keira Knightley yn Pirates of the Caribbean.