S4C yn cyhoeddi y bydd newidiadau i Heno

  • Cyhoeddwyd
Rhodri Williams ac Emma WalfordFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Dau o gyflwynywr Heno yw Rhodri Williams ac Emma Walford

Mae S4C wedi cyhoeddi newidiadau i raglen nosweithiol Heno ym mis Mai.

Daw hyn wedi sylwadau gwylwyr yn ystod wythnosau cynta'r rhaglen newydd.

Mae S4C hefyd wedi cadarnhau "na fydd 'na arian ychwanegol" ar gyfer y newidiadau.

Oherwydd y newid fe fydd swyddfa cynhyrchwyr y rhaglen Heno a Phrynhawn Da, Tinopolis, yn y gogledd yn ailagor.

Dywedodd datganiad ddydd Gwener fod Tinopolis ac S4C wedi gwrando ar y sylwadau ac wedi penderfynu newid cynnwys ac arddull y rhaglen.

"Fe fydd yn rhoi llawer mwy o bwyslais ar berthynas agos gyda chynulleidfaoedd ledled Cymru ac adlewyrchu gweithgaredd cymunedol," meddai.

'Presenoldeb'

"Bydd llai o bwyslais ar gynnwys stiwdio a mwy ar gyfleu'r hyn sy'n digwydd ym mhob cwr o Gymru.

"Bydd cyhoeddiad pellach gyda mwy o fanylion yn agosach at y dyddiad."

Dywedodd fod y swyddfa yn y gogledd yn ailagor oherwydd yr angen am "bresenoldeb cyson o'r gogledd a'r canolbarth ar Heno.

"Bydd rhai newidiadau hefyd i'r rhaglen brynhawn Prynhawn Da, eto oherwydd ymateb i sylwadau'r gwylwyr," ychwanegodd.

Roedd dau ohebydd Wedi 3 a Wedi 7, rhagflaenwyr Heno a Prynhawn Da, yn y gogledd wedi cael gwybod ym mis Ionawr y byddai eu cytundebau'n dod i ben.

Roedd Gerallt Pennant a Meinir Gwilym yn gweithio yn y swyddfa yn Galeri, Caernarfon.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol