Rabo Direct Pro12

  • Cyhoeddwyd
Alun Wyn Jones touches downFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Gleision Caerdydd 12-33 Y Gweilch

Sgoriodd y Gweilch 27 pwynt yn yr ail hanner yn erbyn Gleision Caerdydd gan roi hwb fawr i'w hymgyrch i sicrhau gêm gartref yng ngemau ail gyfle'r Pro12.

Ciciodd Leigh Halfpenny bedair cic gosb ar ran y Gleision yn yr hanner cyntaf o gymharu â dwy Dan Biggar.

Ond ar ôl i Biggar ychwanegu dwy gic gosb arall ar ôl yr egwyl, fe wnaeth cais capten y Gweilch Alun Wyn Jones wedi 62 munud agor y llifddorau.

Cafwyd ceisiau gan Adam Jones a Tom Smith gyda Biggar yn ychwanegu'r trosiadau.

Dyma oedd pumed colled y Gleision yn olynol.

Gleision: Leigh Halfpenny; Alex Cuthbert, Gavin Evans, Dafydd Hewitt, Harry Robinson; Ceri Sweeney, Lloyd Williams; John Yapp, Marc Breeze, Sam Hobbs, Bradley Davies (capt), James Down, Michael Paterson, Martyn Williams, Luke Hamilton.

Eilyddion: Kristian Dacey, Nathan Trevett, Ryan Harford, Josh Navidi, Maama Molitika, Richie Rees, Dan Parks, Casey Laulala.

Gweilch: Richard Fussell; Hanno Dirksen, Tom Isaacs, Andrew Bishop, Shane Williams; Dan Biggar, Kahn Fotuali'i; Paul James, Richard Hibbard, Adam Jones, Alun Wyn Jones (capt), Ian Evans, Ryan Jones, Justin Tipuric, Joe Bearman.

Eilyddion: Scott Baldwin, Ryan Bevington, Aaron Jarvis, James King, Tom Smith, Rhys Webb, Matthew Morgan, Sonny Parker.

Dyfarnwr: George Clancy

Ben MorganFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Ben Morgan yn brwydro dros y Scarlets

Aironi 23-26 Scarlets

Mae gobeithion y Scarlets o gyrraedd gemau ail gyfle'r Pro12 yn dal yn fyw ar ôl y fuddugoliaeth hon, er y byddan nhw'n siomedig i beidio â chipio'r pwynt bonws.

Gwelodd Nigel Davies ei dîm yn arwain 16-6 ar yr egwyl cyn i ymdrech ddewr Aironi leihau'r bwlch.

Sgoriwyd ceisiau'r Scarlets gan Johnathan Edwards, Liam Williams a Ben Morgan.

Cafodd Aironi gais cosb cyn i Giulio Toniolatti gael cais yn symudiad ola'r gêm.

Daeth gweddill y pwyntiau o giciau gan Rhys Priestland ar ran y Scarlets a Tito Tebaldi a Luciano Orquera ar ran Aironi.

Aironi: Tito Tebaldi; Giulio Toniolatti, Gilberto Pavan, Matteo Pratichetti, Sinoti Sinoti; Luciano Orquera, Tyson Keats; Matias Aguero, Fabio Ongaro, Lorenzo Romano, Quintin Geldenhuys, Marco Bortolami (capt), Nicola Cattina, Simone Favaro, Josh Sole.

Eilyddion: Naas Olivier am Tebaldi (60), Giovanbattista Venditti am G Pavan (76), Filippo Ferrarini am Favaro (71), Nick Williams am Cattina (60), Joshua Furno am Geldenhuys (60), Salvatore Perugini am Romano (41), Tommaso D'Apice am Ongaro (60), Alberto De Marchi am Aguero (60).

Cell gosb: Orquera (8), Favaro (35).

Scarlets: Liam Williams; Sean Lamont, Nick Reynolds, Stephen Jones, Andy Fenby; Rhys Priestland, Gareth Davies; Phil John, Ken Owens, Rhodri Jones, Aaron Shingler, Dominic Day, Josh Turnbull (capt), Ben Morgan, Johnathan Edwards.

Eilyddion: Simon Gardiner am John (48), Viliame Iongi am Fenby (72), Kieran Murphy am J Edwards (41), Peter Edwards am R. Jones (79), Matthew Rees am Owens (55).

Ni ddefnyddiwyd: Gilbert, Warren.

Cell gosb: Turnbull (45).

Dyfarnwr: John Lacey

Wil Harries yn cael ei dacloFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae Treviso wedi curo'r Dreigiau ddwywaith y tymor hwn

Y Dreigiau 32-33 Treviso

Curodd Treviso Y Dreigiau am yr ail dro y tymor hwn ar ôl gêm gyffrous oedd yn llawn gwallau yn Rodney Parade nos Wener.

Aled Brew (2), Toby Faletou ac Adam Hughes sgoriodd geisiau'r Dreigiau.

Alessandro Zanni, Luke McLean, y maswr, Kris Burton a'r canolwr Alberto Sgarbi sgoriodd geisiau Treviso.

Ciciodd Hughes dri throsiad a llwyddodd Robling gyda dwy gic gosb i'r Dreigiau.

Ciciodd Burton ddau drosiad, un gôl adlam a dwy gic gosb i'r ymwelwyr.

Curodd Treviso y Dreigiau 50-24 yn Stadio di Monigo fis Hydref y llynedd.

Y Dreigiau: Will Harries, Tonderai Chavhanga, Adam Hughes, Ashley Smith, Aled Brew; Lewis Robling, Joe Bedford; Nathan Williams, Sam Parry, Nathan Buck, Luke Charteris (c), Rob Sidoli, Danny Lydiate, Toby Faletau, Lewis Evans.

Eilyddion: Steve Jones, Phil Price, Dan Way, Scott Morgan, Tom Brown, Wayne Evans, Jason Tovey, Hallam Amos

Treviso: Luke McLean; Ludovico Nitoglia, Tommaso Iannone, Alberto Sgarbi, Brendan Williams; Kris Burton, Edoardo Gori; Michele Rizzo, Franco Sbaraglini, Lorenzo Cittadini, Antonio Pavanello, Cornelius van Zyl, Marco Filippucci, Robert Barbieri, Alessandro Zanni.

Eilyddion: Diego Vidal, Matteo Muccignat, Ignacio Fernandez Rouyet, Valerio Bernabò, Francesco Minto, Simon Picone, Fabio Semenzato, Alberto Di Bernardo.

Referee: James Matthews (SRU)