Angen 'mesurau llymach' i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn galw am fesurau llymach i daclo ymddwyn gwrthgymdeithasol yn ystod Gŵyl Rhuthun eleni.
Cafodd yr ŵyl werin ei chynnal am y tro cyntaf 17 mlynedd yn ôl.
Ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae trigolion a phobl fusnes y dref wedi cwyno am bobl feddw yn defnyddio'r strydoedd fel toiledau ac yn defnyddio iaith anweddus yn ystod ac ar ôl digwyddiad "Top y Dref" sy'n cloi'r ŵyl.
Dydd Sadwrn ola'r ŵyl mae Rhodfan Sant Pedr yn cael ei gau i drafnidiaeth wrth i'r adloniant gael ei gynnal ar ddau lwyfan yno.
Pryder
Mae trefnwr yr ŵyl wedi gwneud cais am drwydded safle i lwyfannu'r digwyddiad ar Fehefin 30.
Ond mae Heddlu Gogledd Cymru wedi datgan eu pryder ynghylch rhai o'r trefniadau.
Dywed yr heddlu fod nifer o'r miloedd o bobl sy'n mynychu'r digwyddiad yn dod ag alcohol ei hun ac yn yfed yn ormodol.
Cafodd tri o bobl eu harestio'r llynedd a'r un faint y flwyddyn flaenorol.
Mewn adroddiad ar gyfer cyfarfod is-bwyllgor trwyddedu Cyngor Sir Ddinbych, fydd yn cyfarfod ddydd Llun, dywedodd y Sarjant Paul Williams, swyddog trwyddedu canolog y llu, ei fod yn amlwg bod pobl o dan 18 oed yn yfed alcohol yn ystod y digwyddiad y llynedd.
Ychwanegodd eu bod naill ai'n yfed alcohol eu hun neu'n yfed gweddillion alcohol pobl eraill.
Yn ogystal mae'r sbwriel mae pobl yn gadael ar eu holau yn Rhodfan Sant Pedr wedi'r digwyddiad yn frawychus yn ôl y lluniau teledu cylch cyfyng.
'Parthau di-alcohol'
Dywed yr heddlu y dylai'r trefnwyr cymryd mwy o gyfrifoldeb am ymddygiad y rhai sy'n mynychu'r digwyddiad a rhoi mesurau mewn lle fydd yn eu rheoli'n fwy effeithiol.
Mae'r heddlu a'r trefnwyr eisoes wedi cynnal trafodaethau ynghylch y mater.
Dywed yr Arolygydd Gary Kelly o Heddlu Gogledd Cymru fod y Rhodfan, fel rhannau eraill o Ruthun yn awr yn "parthau di-alcohol" ac y byddai'r rheol hon yn cael ei orfodi pan fydd y digwyddiad yn cael ei gynnal.
Cytunodd yr Arolygydd Kelly i ddarparu plismyn i helpu stiwardiaid i atal pobl rhag mynd i mewn i'r rhodfan gydag alcohol eu hun.
Ni fydd tafarnwyr yn gallu gosod byrddau y tu allan i'w tafarnau ar gyfer eu cwsmeriaid ac fe fydd yn rhaid iddyn nhw yfed y tu mewn i'r tafarndai.
Mae'r Arolygydd Kelly wedi rhybuddio' trefnwyr y digwyddiad y bydd rhaid iddyn nhw dalu am ran o'r gost o ddarparu mwy o blismyn.