Leigh Halfpenny 'ddim yn gadael'
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weithredwr y Gleision, Richard Holland, wedi dweud na fydd Leigh Halfpenny'n gadael fel nifer o chwaraewyr ar ddiwedd y tymor.
Ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2012 sgoriodd Halfpenny 66 o bwyntiau gyda dau gais yn erbyn yr Alban.
Mae cytundeb y cefnwr 23 oed tan haf 2013.
Cadarnhaodd Holland: "Mae Leigh dan gytundeb ac mae'r cytundeb yn para am dymor arall.
"Felly yn groes i rai sibrydion, ni fydd yn gadael."
Ffrainc
Ond fe allai'r Gleision golli Alex Cuthbert a'r gred yw bod nifer o glybiau Ffrainc, gan gynnwys Racing Metro a Toulon, yn ceisio'i arwyddo.
Cafodd yr asgellwr 21 oed dymor cyntaf ardderchog i Gymru, gan sgorio'r cais allweddol yn y fuddugoliaeth hollbwysig yn erbyn Ffrainc yn Stadiwm y Mileniwm.
Dywedodd Holland: "Mae Alex wedi derbyn cynnig - cynnig cystadleuol iawn - ac rydym yn aros i glywed ei ymateb."
Mae dyfodiad Cuthbert i'r tîm rhyngwladol wedi bod yn sydyn - dim ond cytundeb datblygu oedd ganddo gyda'r Gleision ac roedd yn dal i ddisgwyl cynnig cytundeb llawn am y tro cyntaf.
Cyfarwyddwr
Roedd sylwadau Holland mewn cynhadledd newyddion lle cyhoeddwyd bod y Gleision yn chwilio am gyfarwyddwr rygbi newydd i weithio gyda'r hyfforddwyr presennol.
Mae'r swydd wedi bod yn wag ers i Dai Young ymuno gyda chlwb y Wasps ac mae Gareth Baber a Justin Burnell wedi bod yng ngofal y tîm ers hynny.
Mae 12 aelod o garfan y Gleision wedi cyhoeddi y byddan nhw'n gadael y clwb ar ddiwedd y tymor a hyd yn hyn mae'r Gleision wedi arwyddo tri chwaraewr newydd - y maswr Jason Tovey, y prop Campese Ma'afu a'r blaenasgellwr Robin Copeland.
Yn ogystal mae'r canolwr Gavin Evans wedi penderfynu aros gyda'r rhanbarth ac wedi arwyddo estyniad o ddwy flynedd i'w gytundeb.