COP30: Cyswllt rhwng dinistr yr Amazon a llygredd afonydd Cymru

Ardal o goedwig law'r Amazon ger Humaitá, Brasil sydd wedi'i losgi Ffynhonnell y llun, Getty Images/Michael Dantas
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 6.7 miliwn hectar of goedwig law trofannol eu colli yn ystod 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr wedi rhybuddio am "gyswllt cudd" rhwng datgoedwigo yn yr Amazon a llygredd afonydd yng Nghymru.

Wrth i gynhadledd newid hinsawdd COP30 ddechrau ym Mrasil, mae adroddiad newydd yn amlygu gymaint o soia sy'n cael ei fewnforio o'r wlad i Gymru er mwyn bwydo anifeiliaid fel ieir a gwartheg.

Gan ei fod yn cynnwys lefelau uchel o ffosfforws, gall achosi llygredd pan fo tail anifeiliaid yn treiddio i afonydd, meddai'r adroddiad.

Galw mae elusennau Maint Cymru a WWF Cymru am atal mewnforion o gynnyrch sy'n cyfrannu at ddatgoedwigo.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod eisoes yn cymryd "camau uchelgeisiol".

Yr wythnos hon mae cynrychiolwyr o dros 190 o wledydd yn cwrdd yn ninas Belém ym Mrasil, sydd wedi'i disgrifio fel "mynedfa i'r Amazon" - ar gyfer trafodaethau COP30.

Mae coedwigoedd glaw fel yr Amazon yn allweddol i'r frwydr yn erbyn cynhesu byd eang - maen nhw'n amsugno carbon ac yn hafan ddigymar hefyd ar gyfer bioamrywiaeth.

Bedair blynedd yn ôl daeth addewid gan arweinwyr byd i atal a gwyrdroi datgoedwigo erbyn 2030 yng nghynhadledd COP26 Glasgow.

Ond mae'r adroddiad heddiw yn nodi bod dinistr i goedwigoedd glaw yn parhau "ar raddfa frawychus", gyda data diweddar yn awgrymu bod 6.7 miliwn hectar o goedwig trofannol wedi'u colli yn 2024.

Pentwr o ffa soiFfynhonnell y llun, Getty Images/Bloomberg
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru'n mewnforio oddeutu 190,000 o dunelli o soia bob blwyddyn

Mae'r adroddiad am weld Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus fel cynghorau yn gwneud mwy i ddylanwadu ar y sefyllfa drwy graffu ar y bwyd y maen nhw'n ei brynu - er mwyn osgoi cynnyrch allai fod wedi cyfrannu at ddatgoedwigo.

"Gall yr hyn ry'n ni'n ei fwyta a'i gynhyrchu yma gael effaith fawr ar ddyfodol fforestydd a'r cymunedau sy'n dibynnu arnyn nhw," eglurodd Barbara Davies-Quy, dirprwy gyfarwyddwr elusen newid hinsawdd Maint Cymru.

"Bob tro ry'n ni'n prynu cyw iâr rhad gafodd ei fwydo ar soia neu corn biff o wledydd De America sydd â chysylltiad â risg o ddatgoedwigo, mae Cymru yn cyfrannu at system sy'n arwain at ddinistr coedwigoedd fel yr Amazon a sy'n brifo pobl brodorol," meddai.

Teófilo Kukush Pati, Llywydd cenedl y Wampís o Beriw a Tsanim Wajai Asamat, arweinydd ifanc yn sefyll o flaen y Senedd ym Mae Caerdydd Ffynhonnell y llun, Maint Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Teófilo Kukush Pati a Tsanim Wajai Asamat o genedl y Wampís sy'n byw yng nghoedwig law yr Amazon ym Mheriw yn ymweld a'r Senedd yn 2024

Yn ôl yr adroddiad, mae Cymru yn mewnforio oddeutu 190,000 tunnell o soia y flwyddyn, yn ogystal a 12,000 tunnell o gig eidion.

Mae bron i dri chwarter y soia yn dod o wledydd sydd â risg uchel neu uchel iawn o ddatgoedwigo - felly hefyd 26% o'r biff sy'n cael ei fewnforio i Gymru.

Yng ngorllewin Paraná, Brasil, mae cenedl yr Avá Guarani wedi colli rhan helaeth o'u tiroedd cyndeidiol i blanhigfeydd soia eang.

"Daeth y busnesau amaeth a difa popeth - ein hafonydd, ein fforestydd, ein bwyd. Mae'r tir yn sâl. Nid yw'n medru anadlu," meddai Karai Okaju, un o arweinwyr yr Avá Guarani.

Mae'r gymuned wedi sefydlu cyswllt â Chymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn ogystal â chenedl y Wampís o Beriw.

Fe anfonon nhw ddirprwyaeth i ymweld â'r Senedd gan gwrdd a gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ddiweddar.

Afon Gwy
Disgrifiad o’r llun,

Mae llygredd wedi dod yn broblem sylweddol yn Afon Gwy yn ddiweddar

Mae oddeutu 80% o'r soia sy'n cael ei fewnforio i Gymru yn cael ei ddefnyddio fel bwyd i anfeiliaid ar ffermydd dofednod a gwartheg.

Gan fod soia yn cynnwys lefelau uchel o ffosfforws, gall fod yn broblem pan bod gormod o faetholion o dail anifeiliaid yn treiddio i afonydd mewn glaw.

Mae'r sefyllfa wedi bod yn hynod ddadleuol ar hyd Afon Gwy yn ystod y blynyddoedd diwethaf, lle mae cymaint â 23 miliwn o ieir - chwarter cynhyrchiant y DU - yn cael eu magu.

Mae nifer o afonydd gwarchodedig eraill Cymru hefyd yn methu targedau o ran llygredd ffosffad - gan gynnwys afonydd Wysg a Chleddau.

Dywedodd Shea Bucklan-Jones o WWF Cymru bod "dibyniaeth Cymru ar fewnforion soia" wedi gadael "llwybr o ddinistr o fforestydd Brasil i afonydd Cymru".

Barbara Davies-Quy o elusen Maint CymruFfynhonnell y llun, Maint Cymru
Disgrifiad o’r llun,

"Os newidiwn ni yr hyn sydd ar ein platiau, gallwn ni newid y blaned," meddai Barbara Davies-Quy o elusen Maint Cymru.

Mae'r adroddiad yn galw ar i Lywodraeth Cymru gefnogi ffermwyr drwy eu system sybsidi newydd - y Cynllun Ffermio Cynaliadwy - i leihau eu dibyniaeth ar soia fel bwyd anifeiliaid.

Mae am weld y sector cyhoeddus a busnesau yn ymrwymo i "gadwyni cyflenwi dim datgoedwigo" erbyn 2028, a gwaharddiad llwyr ar gorn biff o Frasil.

Mae'r awduron yn galw hefyd am hyrwyddo deietau sy'n cynnwys llai o gig a llaeth ond sydd o well safon ac yn cael ei brynu'n lleol.

Er gwaetha'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "canfyddiadau llwm", mae'r adroddiad yn tanlinellu esiamplau cadarnhaol o Gymru'n arwain yn y maes.

Mae gan Gyngor Caerffili, er enghraifft, feini prawf newydd gorfodol ar gyfer prynu bwyd na sydd wedi cyfrannu at ddatgoedwigo - mae hynny'n effeithio ar 20 o gyrff cyhoeddus yng nghanol a de Cymru a 21 o gyflenwyr.

Mae hyn yn golygu lleihau defnydd bwydydd sydd wedi'u prosesu'n eithafol, pwyslais ar gynnyrch cig a llaeth organig yn ogystal â choffi a coco masnach deg.

Yn yr un modd, ymrwymodd Cyngor Sir Fynwy i statws Pencampwr Dim Datgoedwigo yn ddiweddar, cam a ddaeth yn ymyrch gan ddisgyblion ysgol y sir.

Bu'r cyngor yn craffu ar ddarpariaeth prydau ysgol, lleihau'r defnydd o olew palmwydd a sicrhau bod yr holl gig eidion yn dod o Gymru.

Mae cyri cyw iâr wedi'i gyfnewid am "korma corbys (neu chickpea) dim datgoedwigo" ar fwydlenni ysgolion ledled y sir.

Mae rhai o'r disgyblion wedi cael eu gwahodd i siarad mewn digwyddiad yn uwchgynhadledd COP30 trwy gyswllt fideo am yr hyn y maent wedi'i gyflawni, yn ogystal â chynrychiolwyr o'r cyngor lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, arweinydd Cyngor Sir Fynwy, eu bod nawr yn dechrau edrych ar brydau sy'n cael eu cynnig mewn cartrefi gofal ac atyniadau twristiaeth.

"Mae gennym ni gynllun gweithredu yr ydym ni'n ei adolygu a'i ddiweddaru bob chwe mis, a ry'n ni'n gweithio hefyd ar addysgu ein cyflenwyr," ychwanegodd.

"Ry'n ni am weld gymaint â phosib o gynghorau eraill ar draws y DU yn gwneud yr un fath - mae'n gwneud synnwyr ar gyfer ein dyfodol ond mae hyd yn oed yn well mai pobl ifanc sy'n ein dal ni i gyfri'."

Disgyblion ysgol o Drefynwy yn dilyn cyflwyniad i gynghorwyr yn neuadd y Sir, BrynbugaFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Fynwy
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgyblion ysgol yn Sir Fynwy wedi bod yn ymgyrchu er mwyn sicrhau nad yw prydau ysgol yn cynnwys cynnyrch allai fod wedi cyfrannu at ddatgoedwigo fforestydd glaw

Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Derek Walker, wedi galw hefyd am sector cyhoeddus na sydd yn cyfrannu at ddatgoedwigo dramor erbyn 2028.

Wrth gael ei holi a oedd hi'n fforddiadwy i gynghorau symud oddi wrth fewnforion o fwyd rhad ar adeg pan fo cyllidebau dan bwysau, dywedodd "mae cost peidio gwneud hyn yn enfawr... i'r argyfwng hinsawdd".

"Ond mae hyn hefyd ynglŷn â gwneud pethau mewn ffordd wahanol a dwi'n gobeithio y bydd o fudd i'r economi Gymreig.

"Dwi'n gobeithio y byddwn ni'n prynu mwy o gynnyrch lleol tra hefyd yn gwneud y peth iawn yn fyd-eang," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod pwysigrwydd "chwarae ein rhan" yn enwedig drwy gadwynau cyflenwi a phartneriaethau rhyngwladol.

"Er hynny, mae'n her sydd angen ymdrech Cymru gyfan, ac yn un sy'n rhaid i ni wynebu gyda'n gilydd er mwyn gwarchod y blaned ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol," meddai.