Gwrandawiad llys llawn i drafod perchnogaeth pier Bar Colwyn
- Cyhoeddwyd
Mae barnwr wedi penderfynu y dylai gwrandawiad llys llawn benderfynu perchnogaeth Pier Bae Colwyn.
Roedd cyn-berchennog y llys, Steve Hunt, wedi gwneud cais i Lys Sirol Yr Wyddgrug am orchymyn yn cadarnhau bod yr adeilad cofrestredig Gradd II yn eiddo iddo fo.
Ei obaith oedd y byddai'r cais yn cael ei drafod mewn gwrandawiad byr ddydd Llun ond dywedodd y Barnwr Milwyn Jarman QC fod rhaid i'r cais fynd gerbron gwrandawiad llawn.
"Mae 'na faterion ffeithiol y mae'n rhaid ymchwilio iddyn nhw ...," meddai.
Fe ddywedodd bargyfreithiwr ar ran Cyngor Bwrdeistref Conwy wrth y llys y dylai'r cyngor fod yn rhan o'r achos gan eu bod nhw wedi arwyddo cytundeb i brynu'r pier ym mis Mawrth 2012.
Aeth Mr Hunt yn fethdalwr ym mis Gorffennaf 2008 wedi anghydfod am drethi nad oedd wedi eu talu.
Trosglwyddo
Mae wedi honni y dylai'r pier fod wedi cael ei drosglwyddo yn ôl iddo os nad oedd y cyngor wedi ei werthu.
Ond dywedodd y cyngor bod y pier yn eiddo i Stad y Goron oedd wedi ei werthu i Lywodraeth Cymru. Wedyn cafodd ei drosglwyddo i'r cyngor.
Roedd y cyngor yn wynebu achos arall ddydd Llun oherwydd honiadau Mr Hunt eu bod wedi torri rheolau wrth adnewyddu'r pier.
Fe wrthododd y barnwr honiadau bod y cyngor wedi gweithredu'n anghyfreithlon drwy wario arian yn adnewyddu'r pier yn y flwyddyn ariannol 2009-10.
Clywodd y llys nad oedd Mr Hunt yn gallu profi ei fod ar gofrestr etholwyr Conwy ar y pryd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2012