Etholiad: 'Galw am wario i wella ffyrdd'
- Cyhoeddwyd
Yn y bedwaredd o saith erthygl am awdurdodau allweddol cyn etholiadau lleol Mai 3, Aled Scourfield sy'n bwrw golwg ar fater hollbwysig mewn sir.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwario tua £250 miliwn y flwyddyn ar drafnidiaeth a strategaeth adfywio ond mae awdurdodau Cymru yn dal i gystadlu gyda'i gilydd er mwyn ariannu prosiectau trafnidiaeth.
Wrth i wariant cyfalaf gael ei gwtogi, mae'r frwydr rhwng awdurdodau lleol am adnoddau prin yn dwysáu.
Mewn siroedd gwledig fel Penfro, sy'n ddibynnol ar dwristiaeth, mae'r angen i wella'r rhwydwaith lleol yn brif ffactor o ran datblygiad economaidd.
Yn Abergwaun mae 'na bryderon ers tro am gyflwr y rhwydwaith ffyrdd ac mae'r strydoedd a'r palmentydd culion yn nodweddiadol o hen dref.
Datblygiad newydd
Yn ddiweddar, cafodd amlinelliad caniatâd cynllunio ei roi ar gyfer marina gerllaw yn Wdig.
Mae disgwyl y bydd modd i 450 o gychod fod yn y marina a 253 o fflatiau yn cael eu codi ar hyd yr arfordir.
Pryder Cyngor Sir Penfro yw na fydd Llywodraeth Cymru yn ariannu'r gwelliannau ar gyfer y prif ffyrdd yng nghanol Abergwaun, nac o bosib y fynedfa allweddol ar gyfer y datblygiad newydd.
Dywedodd Ian Westley, Cyfarwyddwr Trafnidiaeth ac Amgylchedd Cyngor Sir Penfro, nad oedd y rhwydwaith presennol yn "cyrraedd y safon" ac mai 18 modfedd o led oedd y palmentydd mewn mannau.
Roedd llwybrau'n cael eu codi tua 1.8 metr o led, meddai.
Dywedodd mai'r sefyllfa yn Abergwaun oedd "o bosib y waetha" yn y sir.
Roedd y cyngor sir wedi gobeithio y byddai datblygwr preifat yn helpu gwella canol y dref fel rhan o gytundeb yn gysylltiedig â chais cynllunio.
Ond mae'r diddordeb wedi lleihau oherwydd y cyfnod economaidd anodd.
Deiseb
"Mae mynediad gwell yn gwbl allweddol i ddatblygiad Abergwaun," yn ôl Mr Westley.
Yr amcangyfrif yw y bydd y newidiadau'n costio tua £2.5 miliwn - swm eitha' bach yn nhermau gwariant trafnidiaeth.
Mae 'na bwysau gwleidyddol wedi bod am wella hen ffyrdd Abergwaun a mwy na 1,000 o enwau ar ddeiseb drawsbleidiol yn galw am welliannau ar fyrder.
Er gwaetha buddsoddiad sylweddol wedi ei nodi ar gyfer Marina Abergwaun, mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod talu am welliannau i brif ffyrdd canol y dref.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dydi Cynllun Gwella Canol Trefi ar gyfer Abergwaun ddim yn y rhaglen bresennol sy'n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru fel SWWITCH - Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol neu Gynllun Trafnidiaeth Genedlaethol - ac o ganlyniad does 'na ddim addewid ariannol ar gyfer y cynllun yn ein cyllidebau presennol."
Os yw Abergwaun yn cael marina ar gyfer y ganrif hon, mae'n debyg y bydd rhai o'r ffyrdd yn dal i berthyn i oes arall.