'Dim sail' i achos Peter Hain

  • Cyhoeddwyd
Peter HainFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Gwnaeth Peter Hain y sylwadau dan sylw yn ei hunangofiant, Inside Out

Mae cyfreithiwr ar ran cyn Ysgrifennydd Cymru a Gogledd Iwerddon, Peter Hain, wedi cwestiynu a ydy'r achos llys yn ei erbyn mewn perthynas â'i hunangofiant yn gyfreithlon.

Mewn gwrandawiad rhagarweiniol yn yr Uchel Lys yn Belfast, awgrymodd David Dunlop fod posibilrwydd nad oedd gan yr achos dirmyg llys unrhyw sail gyfreithiol.

Twrnai Cyffredinol Gogledd Iwerddon, John Larkin, sydd wedi dwyn yr achos ac roedd yn cynrychioli ei hun yn Belfast fore dydd Mawrth.

Doedd Mr Hain ddim yn bresennol yn y llys.

Cododd Mr Dunlop amheuon a oedd yr achos yn cydymffurfio â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Beirniadaeth

Wrth wraidd yr achos mae sylwadau wnaeth Mr Hain yn ei hunangofiant diweddar, Outside In.

Yn y llyfr mae'n beirniadu'r Arglwydd Ustus Paul Girvan - ac un dyfarniad penodol wnaeth ym Melffast chwe blynedd yn ôl.

Mae'r achos yn cael ei gynnal gan Mr Larkin, ar y sail fod beirniadaeth Mr Hain yn "tanseilio gweinyddu cyfiawnder" ac yn "beirniadu barnwr yn ddiwarant".

Yn y llys ddydd Mawrth, pwysleisiodd Mr Larkin nad oedd yn dadlau fod pob beirniadaeth o farnwyr yn ddirmyg llys.

Ond dywedodd na ddylid caniatáu unrhyw feirniadaeth oedd yn tanseilio hyder y cyhoedd yn y system gyfiawnder.

Ychwanegodd fod gan bobl yr hawl i gael hyder yn y drefn.

Bydd gwrandawiad llawn yn cael ei gynnal ar Fehefin 19.