Penaethiaid: Nifer menywod yn dyblu

  • Cyhoeddwyd
Athro yn sygrifennu ar fwrddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Erbyn hyn mae yna 70 o fenywod yn benaethiaid ysgolion uwchradd yng Nghymru

Mae bron traean penaethiaid ysgolion uwchradd Cymru yn fenywod a dwywaith gymaint ohonyn nhw wedi cyrraedd y brig yn ystod yr wyth mlynedd ddiwethaf, yn ôl corff addysg.

Er mai menywod yw 66% o athrawon ysgolion uwchradd, dynion yn draddodiadol yw'r rhan fwyaf o'r penaethiaid.

Fodd bynnag, mae manylion Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn dangos fod y sefyllfa'n newid.

Yn 2004 roedd ystadegau blynyddol yn dangos mai dim ond 16.5% o benaethiaid uwchradd yng Nghymru oedd yn fenywod.

'Calonogol'

Mae ystadegau 2012, sydd newydd eu rhyddhau, yn dangos bod y gyfradd yn 31.7%.

Roedd y cynnydd mwyaf yn y flwyddyn ddiwethaf ac erbyn hyn mae 70 o fenywod yn benaethiaid ysgolion uwchradd.

Ar ben hynny, mae nifer y rhai sy'n dilyn Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Nghymru yn awgrymu y bydd y sefyllfa'n gwella.

Dywedodd Dr Philip Dixon, Cyfarwyddwr Cymru undeb ATL, fod y ffigurau'n galonogol.

"Maen nhw'n dangos fod ysgolion Cymru'n symud i'r cyfeiriad iawn ac ar sail ystadegau'r llynedd yn gyflymach nac erioed," meddai.

Cyfeillgar

Roedd nifer o resymau am y newid, meddai, gan gynnwys polisïau mwy cyfeillgar i deuluoedd.

"Ond rhaid i ni beidio â llaesu dwylo," meddai.

"Mae'n dal yn annerbyniol fod tua dwy ran o dair o athrawon ysgolion uwchradd yn fenywod a dim ond un rhan o dair yn benaethiaid.

"Dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i weld beth yw'r rhwystrau ..."

Dywedodd Helen O'Sullivan, Pennaeth Coleg Cymunedol Tonypandy ers pedair blynedd, fod menywod o athrawon yn fwy uchelgeisiol nac yn y 1990au a bod swydd pennaeth yn fwy deniadol i fenywod.

"Maen nhw'n sylweddoli bod swydd pennaeth yn llawer mwy amrywiol nac yr oedd yn arfer bod," meddai.

"Rhaid i benaethiaid fod yn fwy ymarferol, bod â phroffil uwch a gallu trin pobl yn well.

"Yn fy mhrofiad i, mae gan fenywod sy'n ymgeisio am swyddi penaethiaid setiau cryfach o sgiliau nac yn y gorffennol.

'Hyfforddiant'

"Maen nhw wedi dal llawer mwy o wahanol swyddi mewn ysgolion ac wedi cael hyfforddiant datblygiad proffesiynol helaeth."

Dywedodd Eithne Hughes, Pennaeth Ysgol Bryn Elian, Bae Colwyn, ers pedair blynedd: "Rwy'n siŵr fod merched yn fwy hyderus wrth ymgeisio am swyddi erbyn hyn.

"Mae hefyd yn bwysig fod gennym ni gydbwysedd rhwng dynion a merched ymysg penaethiaid fel bod addysg yn gallu manteisio ar gyfraniad y ddau ryw at arweinyddiaeth".

Er bod menywod yn dal yn y lleiafrif ymysg penaethiaid ysgolion uwchradd, mae'r gyfran sy'n athrawon ysgolion cynradd wedi cynyddu am yr wythfed flwyddyn i 60.3%.

Mae 84.5% o weithlu ysgolion cynradd yn fenywod.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol