Dadorchuddio’r cylchoedd Olympaidd yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Cafodd y cylchoedd Olympaidd eu dadorchuddio yn swyddogol yng Nghaerdydd ddydd Mercher.
Yn ôl Gweinidog Chwaraeon Cymru, Huw Lewis, fe fydd hyn yn annog bywyd iach ymhlith ieuenctid Cymru.
Mae'r cylchoedd i'w gweld y tu allan i Neuadd y Ddinas, nepell o un o'r llefydd fydd yn cynnal gweithgareddau yn ystod y Gemau Olympaidd dros yr haf, Stadiwm y Mileniwm.
Yn ogystal cafodd manylion digwyddiadau yr Olympiad Diwylliannol eu datgelu.
Dywedodd Mr Lewis y byddai gweld y cylchoedd yn help i "godi ymwybyddiaeth am chwaraeon yng Nghymru" ac yn hwb i bobl ifanc gymryd rhan mewn campau.
Mae 'na lai na 100 niwrnod bellach cyn y bydd y Gemau yn cychwyn yn Llundain.
Fe fydd y digwyddiad cyntaf o'r Gemau yng Nghaerdydd ar Orffennaf 5, deuddydd cyn y Seremoni agoriadol, wrth i dîm pêl-droed merched Prydain wynebu Seland Newydd.
Dywedodd Jamie Baulch, sydd wedi ennill medal Olympaidd, bod y cylchoedd yn symbol eiconig.
"Wnes i erioed feddwl y byddwn i'n gweld y cylchoedd yng Nghaerdydd.
"Mae'r Gemau yn llawer nes i bobl Cymru nag y maen nhw'n meddwl."
Ymhlith y manylion am yr Olympiad Diwylliannol a gafodd eu cyhoeddi y mae cyfieithiad Gwyneth Lewis o ddrama Shakespeare, 'Y Storm'.
"Mae hyn yn gyfle i ni ddangos i'r byd bod Prydain fawr yn fwy na Lloegr ac yn fwy na Llundain," meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig, Theatr Genedlaethol Cymru.
2Riedd hi'n bwysig i ni ein bod yn gallu defnyddio'r platfform rhywngaldol yma i roi llwyfan i gelfyddyd Gymraeg ac i'r iaith Gymraeg ac i ddiwylliant Cymreig."