Cyfoeth: Syr Terry Matthews yn ôl ar y brig

  • Cyhoeddwyd
Syr Terry MatthewsFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r biliwnydd wedi gwario mwy na £150 miliwn ar ddatblygu cyrchfan Celtic Manor

Mae Syr Terry Matthews yn ôl ar y brig yn ôl rhestr o'r Cymry mwya' cyfoethog ym mhapur newydd The Sunday Times.

Mae cyfanswm ffortiwn y dyn busnes 68 oed, gafodd ei eni yng Nghasnewydd, wedi codi £47 miliwn o £1,0043 i £1,090 miliwn er 2011.

Hwn yw'r tro cyntaf i Syr Terry Matthews fod ar frig y rhestr er 2009.

Mae'r biliwnydd wedi gwario mwy na £150 miliwn ar ddatblygu cyrchfan Celtic Manor, safle'r ysbyty lle gafodd ei eni, yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf.

Mae'r 24 miliwnydd o Gymru sy'n rhan o restr 100 pobl fwyaf cyfoethog Prydain ac Iwerddon yn rhannu ffortiwn gwerth £7.055 biliwn.

Fe wnaeth y cyfalafwr o Gaerdydd, Michael Moritz, 58 wneud elw wedi i' safle rhwydweithio ar gyfer pobl fusnes, LinkedIn, gael ei roi ar y farchnad stoc yn 2011.

Mae Moritz yn bartner blaengar yng nghwmnmi Sequoia Capital, a fuddsoddodd $4.7m yng ngwmni LinkedIn yn 2003.

Roedd y buddsoddiad hwn yn werth $1.5 biliwn pan gafodd y cwmni ei roi ar farchnad Wall Street ym mis Mai y llynedd.

Ond gostyngodd elw cwmni Specsavers, i £21.2 miliwn yn 2011.

Doug Perkins, gafodd ei eni yn Llanelli, a'i wraig Mary, sy'n berchen y cwmni optegwyr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol