Galw am fwy o gefnogaeth i gleifion strôc

  • Cyhoeddwyd
Angiogram o glaf strôcFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gymdeithas Strôc yn galw am well cefnogaeth i gleifion yn syth wedi iddyn nhw adael yr ysbyty ac yn yr hirdymor

Mae adroddiad newydd yn galw am well darpariaeth a chefnogaeth i gleifion sydd wedi diodde' strôc yng Nghymru.

Yn ôl y Gymdeithas Strôc, dyw cleifion ddim yn teimlo eu bod yn cael y cyfle gorau i wella oherwydd prinder gofal wedi iddyn nhw adael yr ysbyty a diffyg cydweithio rhwng gwasanaethau iechyd a gofal.

Mae adroddiad yr elusen, Brwydro i Wella, wedi ei selio ar arolwg o dros 2,200 o bobl sydd wedi cael strôc.

Dywed y gymdeithas fod tua miliwn o bobl wedi goroesi strôc yn y DU a bod yr adroddiad yn cyflwyno darlun du i lawer ohonyn nhw.

O'r 206 o bobl a holwyd yng Nghymru, mae'r adroddiad yn awgrymu fod nifer yn wynebu rhwystrau wrth geisio gwella

  • Doedd 51% ddim wedi cael asesiad o'u hanghenion gofal cymdeithasol a doedd 33% ddim yn gwybod bod ganddyn nhw hawl i gael un.

  • Dim ond 39% oedd yn teimlo'u bod yn cael digon o gefnogaeth gan y Gwasanaeth Iechyd.

  • Dyw 90% o bobl sy'n goroesi strôc ddim yn credu fod pobl yn deall ei effaith.

Asesiadau

Yn ôl yr elusen, mae asesiadau yn hanfodol i sicrhau fod cleifion yn cael gwybod am wasanaethau ac yn cael y cyfle gorau i wella.

Mae'r adroddiad hefyd yn datgelu nad oedd bron i hanner (42%) y rhai a holwyd yng Nghymru yn teimlo fod y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio'n effeithiol, gan roi'r pwysau ar deuluoedd a gofalwyr i gydlynu'r gofal.

Roedd un ymhob pump (18%) yn dweud eu bod wedi colli gwasanaethau er bod eu hanghenion wedi aros yr un fath neu wedi cynyddu.

Doedd dros eu hanner (51%) ddim yn ymwybodol y gallai gofalwyr hefyd gael asesiad i weld a allen nhw gael help.

Dywedodd Ana Palazon, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Strôc yng Nghymru, bod mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn goroesi strôc a bod hynny i'w groesawu.

"Ond mae nifer yn dweud wrthym eu bod, er gwaetha'r ymdrechion i achub eu bywydau, yn teimlo ar eu pennau eu hunain ar ôl mynd adref.

"Mae gan y Gwasanaeth Iechyd a'r awdurdodau lleol dalcen caled wrth gyflawni eu holl ddyletswyddau i ddarparu cefnogaeth addas ac amserol i oroeswyr strôc a'u teuluoedd; ac mae'r dystiolaeth ynglŷn â thoriadau i bobl sy'n cael gwasanaethau ar hyn o bryd yn destun pryder mawr."

Cydweithio

Fel rhan o'u hymgyrch ddiweddara', mae'r Gymdeithas Strôc yn galw ar y Gwasanaeth Iechyd ac awdurdodau lleol i wneud mwy i sicrhau bod anghenion cleifion yn cael eu hasesu a'u hadolygu yn rheolaidd.

Maen nhw hefyd eisiau gwell cydweithio rhwng y gwasanaethau, a gwell hyfforddiant i staff sy'n gofalu am oroeswyr strôc fel eu bod yn deall yr effaith bosib ar gleifion.

"Mae'r dystiolaeth yn glir: mae asesiad a gwasanaethau addas ar yr amser cywir yn gallu gwella safon bywyd goroeswyr strôc a'u teuluoedd," ychwanegodd Ms Palazon.

"Mae hefyd yn arbed arian trethdalwyr, gan fod llai o angen ymyrraeth frys.

"Mae'n rhaid sicrhau fod goroeswyr strôc a'u teuluoedd yn cael y gefnogaeth gywir yn syth ar ôl gadael yr ysbyty ac yn yr hirdymor, fel eu bod yn cael gwella a pharhau gyda'u bywydau."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol