Angen gwneud mwy i leihau risg strôc

  • Cyhoeddwyd
Sgan CT o strôcFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Mae 11,000 o bobl bob blwyddyn yng Nghymru yn cael strôc

Mae angen cyfeiriad a pherchnogaeth newydd ar strategaeth arloesol Llywodraeth Cymru i leihau'r risg o strôc - medd un o bwyllgorau'r Cynulliad.

Cafodd cynigion newydd ar gyfer gweithredu gwasanaethau i leihau'r risg o strôc yng Nghymru, perchnogaeth ohonynt a'u perfformiad, eu codi mewn adroddiad gan y Cynulliad.

Canlyniad ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw nad yw'r Cynllun Gweithredu ar Leihau'r Risg o Strôc yn cael ei reoli mor effeithiol ag y gallai, a bod angen ailedrych arno er mwyn gwneud y defnydd mwyaf o wasanaethau lleihau risg effeithiol.

Mae'n galw am werthuso'r cynllun yn llawn er mwyn creu mwy o eglurder o ran ei berchnogaeth a'r ffordd y caiff ei gyflenwi ymhlith rhanddeiliaid a'r sector iechyd.

Diffygion

Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu diffygion yn y gwasanaethau lleihau risg o strôc eu hunain, gan gynnwys canllawiau nad ydyn nhw'n cael eu dilyn - fel y rheini sy'n nodi y dylai cleifion sy'n cael pwl o isgemia dros dro (a elwir weithiau yn 'strôc fach') gael mynediad at lawfeddygaeth o fewn 48 awr.

Mae hefyd yn adlewyrchu tystiolaeth nad oes digon o arbenigwyr strôc yng Nghymru, a diffyg dull integredig ar draws Cymru mewn perthynas â Byrddau Strôc.

"Yng Nghymru yn unig, mae 11,000 o bobl yn cael strôc bob blwyddyn a dyna'r trydydd lladdwr mwyaf yn y DU," meddai Mark Drakeford, Cadeirydd y Pwyllgor.

"Yn amlwg, mae gwasanaethau yn y maes hwn o bwysigrwydd canolog ac mae'r Pwyllgor yn croesawu'n fras Cynllun Llywodraeth Cymru i Leihau'r Risg o Strôc fel agenda flaengar bosibl.

"Fodd bynnag, rydym yn pryderu bod angen bellach i waith y Llywodraeth o ran codi ymwybyddiaeth o'r Cynllun gael ei gydweddu â darparu gwasanaethau lleihau risg yn effeithiol ar lawr gwlad ym mhob rhan o Gymru.

"Mae rhai gwelliannau syml iawn y credwn y gellir eu gwneud i'r Cynllun ac i'r gwasanaethau.

"Os cant eu gwneud mewn ffordd gydlynol, wedi ei harwain yn dda - gallant helpu i sicrhau bod yr holl ddulliau ataliol ar waith ar gyfer pobl sydd mewn risg o gael strôc."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol