Mwy o draethau'n 'ardderchog'
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y traethau yng Nghymru sydd â safon ardderchog o ddŵr ymdrochi wedi codi 20% i'w lefel uchaf ers 25 mlynedd, yn ôl elusen amgylcheddol.
Yn ôl llawlyfr y Gymdeithas Cadwraeth Forol, mae gan 121 o'r 152 o draethau Cymru a brofwyd yr haf y llynedd ansawdd dŵr ymdrochi ardderchog.
Fe wnaeth dau draeth fethu cwrdd â'r safonau Ewropeaidd angenrheidiol, sef gorllewin Llandudno yng Nghonwy a Phwllgwaelod yn Sir Benfro.
Dywedodd Dr Lou Luddington o'r Gymdeithas fod y ffigyrau yn "hwb i dwristiaeth".
Y llynedd roedd 92 o draethau Cymru yn dal i gyrraedd y safonau angenrheidiol yn ôl y gymdeithas, sy'n edrych yn benodol ar safon dwr y môr a lefel y carthion yn y dŵr, gydag 11 o draethau Cymru wedi methu â chael eu cymeradwyo.
Mae'r gymdeithas yn rhybuddio bod awdurdodau lleol yn llai tebygol o brofi ansawdd dŵr y môr nawr oherwydd cyfyngiadau ariannol.
Dywedodd y Gymdeithas y bydd rheolau llymach ynghylch ansawdd dŵr ar lan y môr yn cael eu cyflwyno gan y Comisiwn Ewropeaidd erbyn 2015.
"Bydd y blynyddoedd nesaf yn bwysig gan y gall ansawdd uchel dŵr fod yn allweddol i sicrhau ffyniant ardaloedd glan y môr yng Nghymru, gan ddenu mwyfwy o dwristiaid i arfordir Cymru."
Mae cydnabyddiaeth y Gymdeithas Cadwraeth Forol yn un o bump drwy'r DU ar gyfer glan y môr a'r unig un sy'n canolbwyntio'n llwyr ar safon y dŵr.
Mae'r gymdeithas yn cynghori pobl i ddewis traethau sydd â record dda o ran glendid dŵr, gan ychwanegu y dylai pobl hefyd gadw draw o'r môr am 48 awr yn dilyn cyfnod o stormydd neu law trwm.
Dywedodd Dŵr Cymru fod rhai o'r traethau gorau yn y DU yng Nghymru.
"Mae sicrhau bod dŵr nofio yn cyrraedd y safonau uchel yn un o brif flaenoriaethau Dŵr Cymru.
"Yng Nghymru mae ganddo ni amgylchedd ffantastig ac mae'n rhaid i ni i'w warchod a'i wella.
"Rydym yn cydweithio gyda nifer o asiantaethau i sicrhau bod y safonau uchel yma yn cael eu cyrraedd gan ein traethau mwya poblogaidd a'u cynnal ar gyfer y dyfodol."