Gleision: Phil Davies wrth y llyw
- Cyhoeddwyd
Cyn flaenwr tîm Cymru, Phil Davies, fydd cyfarwyddwr rygbi newydd Y Gleision.
Bydd y dyn 48 oed, hyfforddwr blaenwyr Clwb Rygbi Caerwrangon, yn olynu Sai Young ymunodd â'r Wasps cyn dechrau'r tymor diwethaf.
Justin Burnell a Gareth Baber oedd yn hyfforddi'r Gleision y tymor hwn.
Dywedodd Phil, cyn hyfforddwr y Scarlets a Leeds, ei fod yn awyddus i gael y swydd y Gleision am beth amser.
'Adeiladu'
"Mae'r Gleision yn ardal fwyaf Cymru ac mae hwn yn gyfle euraidd i griw ifanc o chwaraewyr a staff weithio'n galed i wella'r rhanbarth ac adeiladu ar y sylfaen o osodwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf," meddai Davies, a chwaraeodd dros Gymru 46 o weithiau.
Bydd y Gleision yn chwarae eu gêm olaf ym Mhencampwriaeth Pro12 yn erbyn y Scarlets ddydd Sadwrn ond yn gwybod bod eu hymgyrch i gyrraedd y gemau ail gyfle wedi methu.
Yn Ebrill collodd y Gleision 34-3 i'r deiliaid, Leinster, yn rownd gynderfynol Cwpan Heineken.
Yr un mis cynhaliodd Phil drafodaethau â'r Gleision ynghylch swydd y cyfarwyddwr rygbi wedi iddo gael caniatâd Caerwrangon.
Dywedodd cadeirydd Caerwrangon, Cecil Duckworth, fod y Gleision wedi cytuno talu "iawndal gweddol fach" i Gaerwrangon am fod Phil yn gadael cyn i'w gytundeb ddod i ben.
Phil oedd wrth y llyw pan gyrhaeddodd y Scarlets rownd gynderfynol Cwpan Heineken am y tro olaf yn 2007 cyn iddo gael ei ddiswyddo'r tymor wedyn.
Dyrchafu
Cafodd yrfa lwyddiannus fel hyfforddwr Leeds a helpu'r clwb gael eu dyrchafu o'r drydedd adran i Uwgynghrair Rygbi Lloegr.
Bu'n hyfforddi tîm dan 20 Cymru a Chaerdydd cyn hyfforddi Caerwrangon.
Mae 12 chwaraewr y Gleision, gan gynnwys prop Cymru Gethin Jenkins a'r mewnwr, Richie Rees, yn gadael y rhanbarth ddiwedd y tymor hwn ac mae 'na bryderon y bydd yr asgellwr dawnus, Alex Cuthbert, yn chwarae yn Ffrainc.
Cafodd y Gleision eu beirniadu oherwydd sut y delion nhw â Gavin Henson gafodd ei ddiswyddo yn sgil digwyddiad ar awyren wedi i'r Gleision chwarae yn Glasgow.
Dywedodd Prif Weithredwr y Gleision, Richard Holland: "Mae Phil eisoes wedi dangos ei fod yn gallu datblygu tîm ifanc llwyddiannus pan oedd yn hyfforddi Leeds."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2012