Arbenigwr ar gyfreithiau Hywel Dda, Yr Athro Dafydd Jenkins, wedi marw
- Cyhoeddwyd
Bu farw'r Athro Dafydd Jenkins, arbenigwr ar gyfreithiau Hywel Dda.
Mewn datganiad, dywedodd y Llyfrgell Genedlaethol: "Roedd yn ymladdwr diwyro dros y Gymraeg.
"Roedd hefyd yn ddarllenydd a chefnogwr ffyddlon i'r Llyfrgell Genedlaethol am ddegawdau ers iddo ymaelodi â'r llyfrgell yn yr 1930au.
"Bu'n ŵr gwadd arbennig yn nathliadau canmlwyddiant gosod carreg sylfaen y llyfrgell y llynedd."
Chwaraeodd ran flaenllaw yn yr ymgyrch i gael statws cyfartal i'r iaith yn y llysoedd.
Ganed Yr Athro Jenkins yn 1911 yn Llundain i rieni o Geredigion ac addysgwyd ef yng Ngholeg Sidney Sussex, Caer-grawnt.
Cadair bersonol
Bu'n gweithio fel bargyfreithiwr yng Nghaerfyrddin ar ôl cael ei alw i'r bar yn 1934.
Ymunodd ag Adran y Gyfraith Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1965 ac o 1975 hyd ei ymddeoliad yn 1978 roedd yn dal Cadair bersonol yn Hanes Cyfraith a Chyfraith Cymru.
Y mae ei waith ar Hywel Dda yn cynnwys ei argraffiadau o Llyfr Colan (1963), Cyfraith Hywel (1970), a Damweiniau Colan (1973).
Y mae ei gyhoeddiadau eraill yn cynnwys y ddau lyfr taith Ar Wib yn Nenmarc (1951) ac Ar Wib yn Sweden (1959), a hanes llosgi'r ysgol fomio ym Mhenyberth, Tân yn Llyn (1937).
Cyhoeddodd gyfrol Y nofel: datblygiad y nofel Gymraeg ar ôl Daniel Owen yn 1948.
Sefydlodd a chyd-olygodd y cylchgrawn Heddiw gydag Aneirin Talfan Davies.
Bu farw ddydd Sadwrn.