Martyn Williams yn barod ar gyfer ei 100fed cap
- Cyhoeddwyd
Fe fydd Martyn Williams yn cynrychioli Cymru am y 100fed tro yn erbyn y Barbariaid ar Fehefin 2.
Daeth gyrfa'r chwaraewr 36 oed gyda'r Gleision i ben pan drechon nhw Caeredin.
Dywedodd y byddai'n ymddeol ar ddiwedd y tymor ac ar y pryd roedd cefnogwyr yn ofni mai cyfanswm ei gapiau fyddai 99.
"Roedd yn benderfyniad (i ddewis Williams) ar sail rygbi nid o ran sentiment," meddai hyfforddwr dros dro Cymru, Rob Howley.
Fydd y capten, Sam warburton, ddim yn wynebu'r Barbariaid wrth iddo wella o anaf ond mae'n gobeithio bod yn iach ar gyfer gêm agoriadol Cymru yn erbyn Awstralia ar Fehefin 9.
'Profiad'
"Dyw Sam ddim wedi chwarae llawer o rygbi ers gêm y Gamp Lawn yn erbyn Ffrainc yng Nghaerdydd fis Mawrth," meddai Howley.
"Rydym hefyd am roi cyfle i chwaraewyr newydd.
"Mae gan Martyn lot o brofiad ac un peth sydd gan y Barbariaid yw profiad."
Dywedodd ei fod yn "falch" o roi cyfle i Williams ennill ei 100fed cap.
Roedd wedi ymddeol o rygbi rhyngwladol wedi Cwpan y Byd 2007 cyn i Warren Gatland ei berswadio i ailchwarae.
Anafu
Dywedodd Howley y byddai Adam Shingler, Ken Owens a Rhys Webb yn wynebu'r Barbariaid.
Mae'r canolwyr Jamie Roberts, Jon Davies a Scott Williams wedi eu hanafu.
Dywedodd Howley y gallai George North symud i'r canol.
Fe fydd yn cyhoeddi'r garfan o 38 neu 39 enw dyddd Llun cyn i'r garfan gael ei chwtogi i 34 ar gyfer y daith i Awstralia.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2012