Gwahoddiad i Stephen Jones gan y Barbariaid

  • Cyhoeddwyd
Stephen Jones yng nghyrs Cymru yn wynebu'r Barbariaid yn 2011Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Stephen Jones yng nghyrs Cymru yn wynebu'r Barbariaid yn 2011

Mae'n bosib y bydd y chwaraewr rygbi Stephen Jones, sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau dros ei wlad, yn ymuno gyda Shane Williams yn nhîm y Barbariaid i wynebu Caerdydd ym mis Mehefin.

Mae Jones, sydd wedi ennill 104 o gapiau dros Gymru, wedi cael gwahoddiad i chwarae i'r Barbariaid yn eu tair gêm a fydd yn dod i ben yn erbyn Cymru.

Er hynny, dydi'r Barbariaid ddim wedi cysylltu gyda Martyn Williams.

Mae 'na sibrydion y gallai Williams chwarae unwaith eto dros Gymru, gan ennill ei 100fed cap a hynny yn y gêm yn erbyn y Barbariaid.

Fe fyddai Williams, 36 oed yn gorffen ei yrfa ar yr un diwrnod ac y byddai gêm olaf Shane Williams, 34 oed.

Cynbartneriaid

Mae o eisoes wedi ymddeol o'r llwyfan rhyngwladol pan wisgodd y crys coch am y tro olaf yn erbyn Awstralia ym mis Rhagfyr.

Fe fydd prif chwaraewyr Cymru eisoes yn Awstralia ar gyfer eu gêm gyntaf o'u taith yno a fydd yn cychwyn ar Fehefin 9.

Petai Dwayne Peel yn holliach, fe all ymuno unwaith eto gyda Jones, y ddau yn bartneriaid gyda Chymru a'r Scarlets.

Ymhlith carfan y Barbariaid y mae Joe Rokocoko, Stephen Donald, Aled de Malmanche a Brad Thorn o Seland Newydd, Ruan Pienaar o Dde Affrica a George Smith o Awstralia.

Mae cyn-gapten Lloegr, Mike Tindall wedi cael gwahoddiad yn ogystal â Eliota Fuimaono-Sapolu o Samoa a Maxime Mermoz a Damien Traille o Ffrainc.

John Kirwan, cyn-asgellwr Seland Newydd yw'r hyfforddwr ac mae'n bosib y bydd Akapusi Qera o Fiiji yn y garfan yn Stadiwm y Mileniwm.

Fe fydd y Barbariaid yn cychwyn eu taith yn erbyn Lloegr ar Fai 27 yn Twickenham cyn wynebu Iwerddon yng Nghaerlŷr ar Fawrth 29.

Daw'r daith i ben yng Nghaerdydd ar Fehefin 2.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol