Rhybudd Coleman i'w chwaraewyr
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru Chris Coleman wedi mynnu nad yw chwaraewyr yn tynnu nôl o'r garfan i wynebu Mecsico ddiwedd y mis.
Y gêm yn Efrog Newydd ar Fai 27 yw'r gêm lawn gyntaf i Coleman wrth yr awenau ers iddo gael ei benodi.
Mae Coleman yn mynnu bod y chwaraewyr yn dangos eu hymrwymiad i Gymru cyn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014.
"Os oes rhywun wedi cael anaf go iawn, neu yn or-flinedig yn gorfforol neu'n feddyliol yna fe allwn ni sgwrsio, ond dydw i ddim yn disgwyl i unrhyw un dynnu nôl."
Y gêm yn erbyn Mecsico fydd y gyntaf o ddwy gêm gyfeillgar - bydd y llall yn erbyn Bosnia Herzegovina ar Awst 14 yng Nghymru - cyn i'r gemau rhagbrofol ddechrau adref yn erbyn Gwlad Belg ym mis Medi.
Adeiladu
"Rwyf wedi dewis carfan gref. Nid mynd am drip diwedd tymor gyda gwen ar ein hwynebau yw'r bwriad," ychwanegodd Coleman.
"Rydym am fynd yno i gael canlyniad a pherfformiad sy'n mynd i fod yn ffordd o adeiladu at y gemau yn erbyn Bosnia ac yna Gwlad Belg.
"Mae'n gêm o ddifri, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr."
Y gêm yn erbyn Mecsico fydd y gyntaf ers i Gymru golli 1-0 yn erbyn Costa Rica yng ngêm goffa Gary Speed.
Mae Coleman, sydd wedi dewis Craig Bellamy, Gareth Bale ac Aaron Ramsey yn ei garfan, yn gobeithio y bydd atyniad cael chwarae yn stadiwm MetLife yn Efrog Newydd yn ysbrydoliaeth i'w chwaraewyr.
"Es i weld y stadiwm fis diwethaf - un o'r goreuon i mi weld. Mae'r adnoddau yn gwbl wych.
"Gallwn ddweud bod y chwaraewyr wedi cael tymor caled ac eisiau gorffwys, ond wedyn pwy fyddai ddim am chwarae yn erbyn tîm da Mecsico mewn stadiwm anhygoel?"
Mae Coleman yn credu y bydd Mecsico - sydd 21 lle yn uwch na Chymru ar restr detholion y byd - yn brawf defnyddiol i'r tîm.
"Maen nhw'n dîm da. Fe wyliais i nhw yng Nghwpan y Byd yn Ne Affrica, ac maen nhw'n dechnegol dda, yn gyflym iawn ac yn amyneddgar.
"Bydd yn brawf anodd i ni, ond wedyn fydd hi ddim yn gêm hawdd iddyn nhw chwaith."
Mae Coleman yn disgwyl y bydd seren Manchester United, Javier Hernandez, yn nhîm y gwrthwynebwyr.
Carfan Cymru: Jason Brown (Aberdeen), Lewis Price (Crystal Palace), Rhys Taylor (Chelsea), Chris Gunter (Nottingham Forest), Neil Taylor (Abertawe), Sam Ricketts (Bolton Wanderers), Ashley Williams (Abertawe), Adam Matthews (Celtic), Neal Eardley (Blackpool), Darcy Blake (Caerdydd), Joe Allen (Abertawe), Aaron Ramsey (Arsenal), Andrew Crofts (Norwich City), David Vaughan (Sunderland), Joe Ledley (Celtic), Andy King (Leicester City), David Edwards (Wolverhampton Wanderers), Gareth Bale (Tottenham Hotspur), Craig Bellamy (Liverpool), Hal Robson-Kanu (Reading), Steve Morison (Norwich City), Simon Church (Reading), Sam Vokes (Wolverhampton Wanderers).
Chwaraewyr wrth gefn: Owain Fôn Williams (Tranmere Rovers), Adam Henley (Blackburn Rovers), Rhoys Wiggins (Charlton Athletic), Billy Bodin (Swindon Town), David Cotterill (heb glwb), Jermaine Easter (Crystal Palace).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2012