Geraint Rhys Edwards 'ar ben ei ddigon'

  • Cyhoeddwyd
Geraint Rhys EdwardsFfynhonnell y llun, Rose Bruford
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Geraint yn actio yn Under a Foreign Sky

Mae actor Cymraeg wedi ennill Gwobr Newydd-ddyfodiad Dorothy L Sayers yn Llundain.

Aeth Geraint Rhys Edwards, 22 oed, i Ysgol Gyfun Glantaf yng Nghaerdydd a chafodd brofiad gyda'r Theatr Ieuenctid cyn graddio o Goleg Rose Bruford yn Llundain y llynedd.

Mae wedi derbyn £500.

Roedd yn actio rhan cogydd o'r enw Bojan yn Under a Foreign Sky, drama am dri mewnfudwr ifanc sy'n chwilio am fywyd gwell ym Mhrydain.

Y dramodydd yw Paula B. Stanic.

'Camu ymlaen'

"A dweud y gwir, roedd yn her enfawr ac roedd cael gwerthfawrogiad am y gwaith caled yn anhygoel.

"Mae wedi f'ysbrydoli i gamu ymlaen gyda 'ngyrfa."

Ar hyn o bryd, meddai, mae nifer o glyweliadau ar y gweill ac mae'n croesi ei fysedd y bydd swyddi actio'n dod.

"Yn sicr, mae'r wobr yn hwb i weithio'n galetach a gwireddu'r freuddwyd, bod mewn drama neu sioe gerdd yn y West End."

Cafodd y wobr ei sefydlu yn 2006 a'r nod yw hybu actorion ifanc.